Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad semester (Arholiad Ysgrifenedig) | 80% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ail-eistedd (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Asesiad Semester | asesiad parhaus yn cael ei wneud i fyny o gyfuniad o bresenoldeb mewn darlithoedd(8%), presenoldeb mewn dosbarthiadau tiwtorial (4%) a marciau a gafwyd o aseiniadau a aseswyd (8%) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. adnabod cyfeiriadau syml yn ddadansoddiadol a geometrig.
2. darganfod hafaliadau sythlinau a dwyranyddion onglog.
3. mesur hyd tangiadau i gylch ac adnabod a yw dau gylch yn iawn-onglog.
4. mesur hafaliadau systemau cylch cyfechelin.
5. adnabod y math o ffurf gonig o ddadansoddi ei hafaliad.
6. mesur hafaliadau tangiadau a sythlinau conigau.
7. defnyddio fectorau i ddatrys problemau elfennol mewn geometreg.
8. mynegi cyfesurynnau pwynt cyffredinol cromliniau arbennig yn barametrig.
9. mesur lluosymiau sgalar a fector o ddau fector.
10. mesur lluosymiau sgalar a fector triphlyg o dri fector.
11. mesur hafaliadau fector llinellau a phlanau.
12. mesur yr ongl rhwng dau blan a'r pellter byrraf rhwng pwynt a phlan.
13. datrys problemau elfennol mewn cinemateg.
Nod
I ddatblygu dealltwriaeth o geometreg a'r allu i ystyried problemau geometrig yn ddadansoddiadol, felly hefyd y ffordd arall.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o syniadau hanfodol geometreg - pwyntiau, llinellau, cromliniau, planau ac arwynebau - mewn dull dadansoddiadol, yn defnyddio iaith geometreg gyfesurynnol. Caiff conigau eu dosbarthu yn nhermau eu hafaliadau a nodweddion geometreg. Mae'r cysyniad o dangiad a sythlin hefyd yn cael ei ddatblygu.
Cynnwys
1. GEOMETREG GYFESURYNNOL YN Y PLAN REAL: Y linell syth. Loci. Conigau - ffurfau penodol a'r ffurf cyffredinol. Adnabod canol, foci ac echelin hwyaf
a'r echelin leiaf. Achosion o ddirwyiad. Hafaliad gyffredinol y tangiad. Teuleuoedd o linellau a conigau. Cromlinau plan parametrig. Tangiadau a'r defnydd o ddeilliadau. Cyfesurynnau pegynlinol.
2. CYFLWYNIAD I DDULLIAU FECTOR: Fectorau uned. Lluosymiau sgalar a fector, onglau. Fectorau safle. Fectorau annibynnol llinol. Hafaliadau fector o linellau a phlanau. Cyflwyniad i ginemateg.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4