Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Taflen wybodaeth i’r cyhoedd (unigol) (2 ochr A4) | 30% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad seminar (10 munud) | 20% |
Asesiad Semester | Portfolio (2500 words) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Taflen wybodaeth i’r cyhoedd (unigol) (2 ochr A4) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad seminar (10 munud) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Portfolio (2500 words) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos gwybodaeth am y prosesau ffisegol sydd wedi llunio amgylchedd naturiol Cymru a gwerthfawrogiad beirniadol o ddylanwad gweithgaredd dynol ar amgylchedd a thirwedd Cymru.
2. Trafod yn feirniadol faterion amgylcheddol cyfoes allweddol yng Nghymru, trwy gyfeirio at enghreifftiau a pholisiau.
3. Cyflwyno cysyniadau a modelau daearyddol i esbonio nodweddion a phrosesau yn amgylchedd Cymru, ac arddangos damcaniaethau a dadleuon daearyddol gydag enghreifftiau o Gymru.
4. Dangos dealltwriaeth o bolisi amgylcheddol ac arfer proffesiynol wrth reoli amgylchedd Cymru, a'ch cyfraniad posibl i'r sector.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i gyflwyno myfyrwyr i amgylchedd naturiol Cymru, y prosesau a'r dylanwadau sy'n llunio ei esblygiad, a'r materion cyfredol a fydd yn llywio'i ddyfodol.
Cynnwys
Thema 1: Llunio Tir Cymru.
Thema 2: Ynni ac Amgylchedd Cymru.
Thema 3: Tywydd a Hinsawdd Cymru.
Thema 4: Defnydd tir yng Nghymru
Mae'r modiwl yn cloi gyda:
Thema 5: Cynllunio ar gyfer Dyfodol Proffesiynol, a fydd yn rhoi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i chwilio a gwneud cais am swyddi yn y sector amgylcheddol yng Nghymru, ac ymchwilio i'r dulliau o gyfathrebu Daearyddiaeth.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r daflen wybodaeth a phortffolio. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafodaeth dosbarth a chyflwyniad seminar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd pob darlith yn cynnwys adran ymarferol fer a fydd yn llywio cynllunio gyrfa myfyrwyr trwy drafod enghreifftiau o broffesiynau sy'n ymwneud â'r thema dan sylw, yn gysylltiedig â gwybodaeth bellach am yrfaoedd perthnasol ar AberLearn / Blackboard. Bydd gan bob thema hefyd ymweliad yn y gweithle neu alwad cynhadledd gyda gweithiwr proffesiynol yn y maes hwnnw. At hynny, bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth ymhellach yn Thema 5: Cynllunio ar gyfer eich Dyfodol, trwy ddysgu am y swyddi a’r cyfleoedd hyfforddi yn y sectorau amgylcheddol ac addysgu. Bydd y Portffolio yn dod â'r holl wybodaeth hyn at ei gilydd er mwyn llywio strategaeth datblygu sgiliau personol terfynol. |
Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn trafod enghreifftiau o sut y gellir defnyddio gwybodaeth ddaearyddol i ddeall, asesu a datblygu ymatebion i broblemau amgylcheddol. |
Gwaith Tim | Os y bydd niferoedd yn caniatau, mi fydd myfyrwyr yn paratoi cyflwyniad seminar mewn grwpiau / parau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd presenoldeb myfyrwyr, eu cyfranogiad mewn darlithoedd, a’u gwaith paratoi, yn eu helpu i wella ystod o fedrau dysgu. Mae'r modiwl yn mynnu bod myfyrwyr yn ymgymryd â 166 awr o astudiaeth hunangyfeiriedig. |
Rhifedd | Datblygir sgiliau rhifedd trwy ddeall tystiolaeth ystadegol yn ymwneud a rhai enghreifftiau a ddefnyddir mewn darlithoedd. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau deallusol pwnc-benodol wrth drafod a chymhwyso cysyniadau daearyddol ac ymgysylltu a dadleuon a llenyddiaeth ddaearyddol. |
Sgiliau ymchwil | Yn ogystal a darllen academaidd, disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i enghreifftiau gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell ac ar y we ar gyfer darlithoedd a seminarau wythnosol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i enghreifftiau gan ddefnyddio’r we ar gyfer darlithoedd wythnosol a'r seminarau, i gynhyrchu taflen wybodaeth broffesiynol a sleidiau PowerPoint. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6