Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio o waith creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio weithio’n annibynnol (3,500 o eiriau); | 60% |
Asesiad Semester | sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol (1,500 o eiriau). | 30% |
Asesiad Semester | Noson Lenyddol Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol (cyfraniad unigol o 5–10 munud); neu uwchlwytho recordiad ohonynt eu hunain yn darllen enghraiffiau o’u gwaith creadigol gwreiddiol ar lwyfan digidol yr Adran (5–10 munud, gyda chymorth stiwdio recordio Academi Aber). | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o waith creadigol gwreiddiol Portffolio o waith creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio weithio’n annibynnol (3,500 o eiriau); | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth feirniadol ynghyd â sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol (1,500 o eiriau). | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Noson Lenyddol Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol (cyfraniad unigol o 5–10 munud); neu uwchlwytho recordiad ohonynt eu hunain yn darllen enghraiffiau o’u gwaith creadigol gwreiddiol ar lwyfan digidol yr Adran (5–10 munud, gyda chymorth stiwdio recordio Academi Aber) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar bynciau o’u dewis eu hunain.
Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb i adborth, ar bapur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod gweithdai a sesiynau unigol).
Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.
Llunio portffolio ysgrifennu creadigol annibynnol, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arno (y sylwebaeth feirniadol), sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.
Nod
Crëwyd y modiwl hwn er mwyn cyfoethogi darpariaeth yr Adran mewn ysgrifennu creadigol, trwy roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r theori a’r sgiliau a gawsant ar y modiwl CY24020 mewn portffolio annibynnol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Disgrifiad cryno
Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus a rhoddir cyfle iddynt gyhoeddi eu gwaith ar-lein. Yn hyn o beth, felly, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Cynnwys
1. Barddoniaeth rydd
2. Darnau rhyddiaith byr
3. Y diwydiant Ysgrifennu Creadigol
4. Limrigau a thribannau
5. Llenyddiaeth ecffrastig
6. Llenyddiaeth epistolaidd/hapgael
7. Sgriptio
8. Deialog
9. Llais: cyfansoddi a pherfformio
10. Llunio stori: cynllun, cymeriadau, safbwyntiau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun y portffolio ehangach. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif 4. |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai ac i weithio tuag at berfformiad mewn noson lenyddol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai a’r sesiynau unigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer y portffolio gorffenedig yn esbonio’r datblygiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol. |
Rhifedd | amhertyhnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig; trafodir hefyd y proses o gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno a'i gyhoeddi yn y dulliau print traddodiadol ac ar wahanol lwyfannau ar-lein / electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6