Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Gwaith cwrs a asesir. | 75% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd Semester 1 - ddiwedd Semester 1 | 25% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Nid oes cyfle Allanol NAC Atodol i ailsefyll elfen prosiect y modiwl hwn. Y mae'r arholiad atodol ar gael. | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Nid oes cyfle Allanol NAC Atodol i ailsefyll elfen prosiect y modiwl hwn - bydd y marc am yr elfen hon yn cael ei gario ymlaen. | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Prif ganlyniad dysgu'r modiwl hwn yw y dylai'r myfyriwr fod yn gallu:
1. Cymryd rhan mewn prosiect ar raddfa ddiwydiannol.
Yn ogystal, are ol cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
2. Cymhwyso elfennau cylchoedd bywyd meddalwedd, cyferbynnu amrediad o fodelau cylch bywyd a dewis modelau priodol ar gyfer ystod o brosiectau nodweddiadol;
3. Cymhwyso gweithdrefnau ansawdd meddalwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth;
4. Defnyddio rheoli fersiwn a ffurfwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth;
5. Cynhyrchu'r deilliannau allweddol mewn cylchoedd bywyd meddalwedd.
Disgrifiad cryno
Caiff system diwtorial gyffredinol i fyfyrwyr Blwyddyn 2 ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.
Nod
- dangos arferion gorau i fyfyrwyr yng ngweithgareddau peirianneg rheoli prosiect, sicrhau ansawdd a chydymffurfio a safonau;
- galluogi myfyrwyr i adnabod a defynyddio arferion priodol ar gyfer pennu, cynllunio, profi a gweithredu systemau meddalwedd mawr;
- darparu fframwaith ar gyfer disgyblaeth peirianneg meddalwedd, gan gynnwys y deunydd mwy manwl ar ddylunio a gweithredu a ddysgir mewn cyrsiau eraill;
- cynnwys myfyrwyr wrth ddatblygu darn o feddalwedd sydd mor agos ag sy'n bosibl mewn amgylchedd prifysgol i'r amgylchiadau datblygu meddalwedd a geir mewn diwydiant.
Cynnwys
Ymagwedd ac ymrwymiadau'r peiriannydd proffesiynol. Meddalwedd fel arteffact peirianneg. Tebygrwydd rhwng meddalwedd a changhennau eraill o beirianneg.
2. Cylch Bywyd Meddalwedd : 2 Ddarlith
Disgrifio o'r cyfnodau mewn ystod o gylchoedd bywyd meddalwedd (gan gynnwys Rhaeadr, Prototeipio, Rhaglennu Eithafol a modelau Troell) a'r prif ddeilliannau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig a phob cyfnod. Gwella proses meddalwedd.
3. Rheoli Prosiect : 1 Darlith
Cynllunio ac amcangyfrif costau. Monitro cynnydd. Strwythur tim a rheoli tim.
4. Rheoli Ansawdd : 2 Ddarlith
Dilysu, gwirio a phrofi. Cynlluniau ansawdd. Archwilio rhaglen, archwilio cod a mathau eraill o adolygu. Rol y grwp sicrhau ansawdd. Safonau (rhyngwladol, cenedlaethol a lleol).
5. Rheoli Ffurfwedd : 2 Ddarlith
Llinellau sylfaen. Gweithdrefnau rheoli newid. Rheoli fersiwn. Offer meddalwedd i gefnogi rheoli ffurfwedd.
6. Peirianneg Gofynion a HCI : 2 Ddarlith
Safon IEEE ar gyfer manylion gofynion. Dilysu gofynion drwy brototeipio, er enghraifft. Diffygion yn yr agwedd draddodiadol tuag at fanylion. Cyflwyniad i achosion Defnydd UML. Cyflwyniad i HCI.
7. Dylunio : 2 Ddarlith
Dylunio (pensaerniol) bras a dylunio manwl. Defnydd o haniaethu, celu gwybodaeth, dadelfennu swyddogaethol a hierarchaidd ar lefelau uwch na'r rhaglen unigol. Cynnwys dogfennau dylunio. Diagramau gwladol. Nodiannau UML perthnasol: pecynnau, diagramau cyfres a gweithgaredd, gwrthrychau gweithredol.
8. Gweithredu a chynnal : 1 Darlith
Dewis iaith. Trostorri. Dulliau o gynnal a chadw. Ail-ffactora.
9. Profi : 2 Ddarlith
Strategaethau profi. Offer profi: dadansoddwyr statig a deinamig, harneisiau prawf a chynhyrchwyr data, efelychwyr. Profi perfformiad. Profi atchweliad. Dogfennaeth a hyfforddiant i'r defnyddiwr.
10. Materion moesegol: 2 Ddarlith
11. Dosbarthiadau Tiwtorial
Bydd dosbarth tiwtorial wythnosol yn gysylltiedig a'r cwrs hwn. Bydd y dosbarth tiwtorial yn cael ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau prosiect grwp a thrafod materion peirianneg meddalwedd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd angen sgiliau ysgrifenedig i gwblhau dofgennau ategol i gyd-fynd a'r gwaith cwrs. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd angen rheoli amser yn ofalus er mwyn galluogi myfyrwyr i gwblhau gwaith cwrs etc. |
Datrys Problemau | Mae hyn yn greiddiol yn y prosiect grwp ac yn y deunydd a arholir. |
Gwaith Tim | Yn rhan sylfaenol o'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gweler uchod. |
Sgiliau pwnc penodol | Gweler teitl a chynnwys y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen i'r myfyrwyr chwilio am wybodaeth dechnegol berthnasol a'i defnyddio wrth gwblhau gwaith cwrs. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae'r holl modiwl yn ymwneud a'r maes hwn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5