Module Information

Cod y Modiwl
BG12110
Teitl y Modiwl
Amrywiaeth Microbau
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesu Parhaus.  Asesiad o ddosbarthiadau ymarferol drwy gyfrwng profion amlddewis.  30%
Arholiad Semester 1.5 Awr   70%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  30%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau yng nghylchoedd biogeocemegol a biotechnoleg

2. egluro sut mae micro-organeddau yn rhyngweithio ag organeddau eraill, gan gynnwys dyn, fel pathogenau a chydymddibynwyr.

3. disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd yn y micro-organeddau eucaryotig a procaryotig.

4. arddangos sgiliau ymarferol wrth drafod micro-organeddau.

Disgrifiad cryno

Cynlluniwyd y modiwl er mwyn cyflwyno amrywiaeth bywyd microbau i fyfyrwyr a phwysigrwydd micro-organeddau fel pathogenau, fel cydymddibynwyr (e.e. systemau treulio anifeiliaid, mycorhisa ac ati) ym miotechnoleg (cynhyrchu bwyd, cynhyrchion fferyllol ac ati) ac mewn gweithrediadau ecosystemau.

Cynnwys

Bydd y cwrs darlithoedd yn dechrau gyda chyflwyniad i dri Maes bywyd ac yn cynnwys cymharu procaryotau ac eucaryotau. Mae'r rhan fwyaf o amrywiaeth genetig a metabolig organeddau byw yn ficrobaidd a thynnir sylw at hyn o'r cychwyn cyntaf. Archwilir hefyd agweddau cymhwysol ar ficrobioleg sy'n uniongyrchol berthnasol i bobl, megis pwysigrwydd microbau mewn bwydydd eplesedig (e.e. gwin, cawsiau ac ati) wrth gynhyrchu'n fferyllol (e.e. penisilin/ensymau) ac fel cyfryngau bioreoli.

Cyflwynir Bacteria ac Archaea procaryotig, gan bwysleisio morffoleg, ffisioleg ac ecoleg a chloi drwy ystyried eu rol yng nghlefydau dyn. Archwilir strwythur a chylchoedd bywyd firysau ac archwilir eu rol yng ngweithrediadau clefydau ac ecosystemau.

Cyflwynir byd y Ffyngau drwy arolwg o'r prif grwpiau a'u dulliau tyfu. Mi fydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn trafod dosbarthu organeddau byw ac amrywiaeth ffurf, systemau genetig a strategaethau bywyd, amrywiaeth ffurf a swyddogaeth micro-organeddau awtotroffig, gan gyflwyno procaryotau ac eucaryotau ffotosynthetig (algau). Yna ystyrir wltra-adeiledd, morffoleg, twf ac atgynhyrchiad celloedd, sefydliad nitrogen a swyddogaeth heterocyst yn yr organeddau hyn.

Daw rhan olaf y modiwl i ben gyda gorolwg o rol microbau mewn pydru daearol, yng nghlefydau planhigion ac fel symbiontiaid cydymddibynnol o blanhigion ac anifeiliaid.

Mi fydd dosbarthiadau ymarferol yn enghreifftio ac yn cadarnhau agweddau ar y cwrs darlithoedd. Bydd myfyrwyr yn defnyddio microsgopeg golau i archwilio ystod o ficro-organeddau. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau allweddol ar gyfer trafod micro-organeddau yn ddiogel drwy archwiliadau arbrofol syml. Erbyn diwedd y cwrs mi fydd gan fyfyrwyr wybodaeth sylfaenol am dechnegau trafod di-haint. Defnyddir microsgopeg fideo yn helaeth fel cynhorthwy wrth ddenhongli deunydd ymarferol. Asesir dosbarthiadau ymarferol drwy gyfrwng profion yn y dosbarthiadau ymarferol a/neu wedyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau gwrando ar gyfer y darlithoedd a thrafodaeth ddilynol yn y dosbarthiadau ymarferol. Cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol mewn arholiadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau biolegol ac asesu’n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig.
Datrys Problemau Trwy'r darlithoedd, mi ddaw myfyrwyr yn ymwybodol o broblemau amgylcheddol a meddygol penodol a achosir gan ficrobau a'r atebion a ddatblygwyd er mwyn goresgyn y rhain. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o gynllunio, gweithredu, dehongli data a chynnig sylwadau ar arbrofion microbioleg a asesir.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllunio arbrofol a gweithio'n ymarferol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol. Bydd yr elfennau astudio cyfeiriedig yn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau dysgu a'u hoff ddulliau eu hunain ac adnabod anghenion a rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol.
Rhifedd Casglu ac archwilio data ar gyfer ansawdd a maint. Dehongli data.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau mewn cylchoedd biogeocemegol a biotechnoleg ac egluro sut mae micro-organeddau yn rhyngweithio ag organeddau eraill. Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd mewn micro-organeddau eucaryotig a procaryotig. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau allweddol wrth drafod sbesimenau microbiolegol.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymchwilio pynciau y tu hwnt i gynnwys a chwmpas y darlithoedd gan ddefnyddio astudio cyfeiriedig ac annibynnol. Ystyrir a rhoi sylwadau ar wybodaeth o amryw ffynonellau. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi datblygiad sgiliau ymchwil biolegol allweddol (gan gynnwys trafod sbesimenau microbiolegol) yn gynnar yn eu gyrfaoedd academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4