Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Prif Bwnc C cyflwyniad grwp (15 munud) | 70% |
Asesiad Semester | Aseiniad Ail Bwnc Ch (700 gair) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Prif Bwnc C cyflwyniad grwp (15 munud) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ail Bwnc Ch (700 gair) | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn hyderus ac yn gywir yn CA3 a CA4 ac ol-16 lle bo'n berthnasol;
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o gynnwys y pwnc a chwricwlwm yr is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*;
Parhau i gynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn;
Trafod a dadansoddi'n fanylach sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol a hynny;
Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gallu gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni;
Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tim (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*
Trafod yn feirniadol sut y maent yn datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol drwy adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.
- Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6