Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dyddiadur Labordy Ysgrifenedig. Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol. Y gofyniad lleiaf yw 200 gair gwreiddiol yr arbrawf. | 50% |
Asesiad Semester | 2 x Adroddiad Labordy Ysgrifenedig, 2 x 1000 gair | 30% |
Asesiad Semester | Llyfr-gwaith Ysgrifenedig 40 awr | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru:
1. Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
2. Ysgrifennu adroddiad gwyddonol clir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
3. Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
4. Gweithio gydag eraill mewn modd ystyriol, gan rannu'r dyletswyddau ar gyfer gweithio'n effeithlon.
5. Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.
Disgrifiad cryno
Yn Aberystwyth mae'r modiwlau ffiseg arbrofol wedi eu llunio fel bo myfyrwyr yn datblygu dros y dair neu bedair blynedd o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl i gyflawni arbrofion syml yn y flwyddyn gyntaf, i ymchwilio testun a datblygu eu harbrofion a'u hymchwilio eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n gallu cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Disgwylir taflen waith sy'n manylu ar ansicrwydd mewn mesuriadau a chywirdeb modelau. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am ddau o'r arbrofion mewn adroddiadau ffurfiol, gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testunau. Yn ychwanegol at hyn, yn yr ail semester bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o recordio a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol.
Cynnwys
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Mae'r gyfres o'r arbrofion yn y semester cyntaf yn seiliedig ar fodiwlau craidd ffiseg sy'n cael eu cymryd ar yr adeg hon. Yn yr ail semester bydd disgwyl i fyfyrwyr berfformio detholiad o arbrofion mewn cylchdro. Mae'r arbrofion hyn yn cwmpasu meysydd allweddol o ffiseg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar yr arbrofion. |
Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion. |
Gwaith Tim | Caiff y myfyrwyr eu hannog i gydweithio wrth ddatrys problemau modelu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrywr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrfennu nodiadau. |
Rhifedd | Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4