Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd Ysgrifenedig (2500 gair) | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ysgrifenedig (2500 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth dda o’r system gyfreithiol a’r system cyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithio rhwng y ddwy.
2. Bod yn gyfarwydd a ffynonellau’r gyfraith a sut i ganfod ac adnabod ffynonellau o’r fath.
3. Bod yn gyfarwydd a gweithdrefnau’r llys ac achosion llys.
4. Gallu dadansoddi a chloriannu agweddau ar y System Gyfreithiol a’r System Cyfiawnder Troseddol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn ymgorffori holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cynnig trosolwg o’r system cyfiawnder troseddol. Bydd y ddau bwnc yn cael eu hintegreiddio i fodiwl sy’n cyflwyno’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio a’i gilydd.
Cynnwys
Bydd myfyrwyr yn ystyried y pethau canlynol mewn perthynas a’r system gyfreithiol, strwythur y llysoedd a hierarchaeth y llys a sut y mae hyn yn berthnasol i gyfraith achosion ac athrawiaeth cynsail. Astudir deddfwriaeth ac egwyddor dehongli statudol, yn ogystal â sut y mae’r Senedd yn deddfu. Proffesiwn y gyfraith, gan gynnwys y farnwriaeth, bargyfreithwyr a chyfreithwyr ac ynadon; rheithgor; systemau gwrthwynebus/ymchwiliol; ADR (Alternative Dispute Resolution); bydd tribiwnlysoedd yn ganolbwynt i’r astudiaethau o fewn elfen y system gyfreithiol. O ran y system cyfiawnder troseddol, ystyrir disgresiwn a phwerau’r heddlu ac effaith PACE. Bydd gweithgor y treial/ystafell llys yn cael ei astudio a’i gysylltu a’i swyddogaeth o fewn y system gyfreithiol. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dedfrydu, gan gynnwys dedfrydau o garchar/di-garchar a rheolau/gweithdrefnau carchar.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Seminarau rhyngweithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y myfyrwyr yn cael cyngor am y gwahanol gyfleoedd y mae graddau yn y gyfraith/troseddeg yn eu cynnig. |
Datrys Problemau | Seminarau rhyngweithiol. |
Gwaith Tim | Seminarau rhyngweithiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio a pharatoi ar gyfer seminarau. |
Sgiliau pwnc penodol | Deall dulliau cyfreithiol. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio i gronfeydd data ar y gyfraith. |
Technoleg Gwybodaeth | Systemau TG a chronfeydd data cyfreithiol sy’n hanfodol ar gyfer astudio a gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5