Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr (Diwedd Tymor 2) | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad Labordy 1 (2000 gair) | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad Labordy 2 (50 cwestiwn byr) | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Bydd myfyrwyr yn cwblhau asesiadau cyfatebol i'r rhai a arweiniodd at fethiant yr modiwl | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Labordy 1 (2000 gair) Bydd myfyrwyr yn cwblhau asesiadau cyfatebol i'r rhai a arweiniodd at fethiant yr modiwl | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Labordy 2 (50 cwestiwn byr). Bydd myfyrwyr yn cwblhau asesiadau cyfatebol i'r rhai a arweiniodd at fethiant yr modiwl | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Cymharwch y prosesau anatomeg a biolegol sy'n gysylltiedig â threuliad mewn anifeiliaid dof.
2. Dangos dealltwriaeth o systemau ffisiolegol allweddol anifeiliaid dof.
3. Disgrifiwch effaith bioleg ffactorau biotig, fel bacteria, protozoa, ffyngau, helminths ac arthropodau, ar swyddogaeth anifeiliaid dof a'r fferm.
4. Deall sut mae'r syniad o amrywiaeth esblygiadol bywyd yn berthnasol i gyd-destun y fferm, a gallu defnyddio termau ffylogenig sylfaenol yn gywir.
5. Disgrifiwch y ffordd y mae amaethyddiaeth yn rhyngweithio â'r amgylchedd ehangach, gan ddefnyddio cysyniadau bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystem ac amaethyddiaeth amlswyddogaethol.
Disgrifiad cryno
Drwy gyfres o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol bydd y modiwl hwn yn rhoi sylfaen mewn bioleg sy'n gysylltiedig a ecosystem fferm, da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes.
Nod
Fydd y modiwl hwn yw rhoi sylfaen i myfyrwyr mewn bioleg anifeiliaid sy'n ymwneud a'r amgylchedd amaethyddol a'i rhyngweithiadau, i'w paratoi ar gyfer modiwlau eraill neu I weithio mewn amgylchedd gwledig. Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu bioleg swyddogaethau allweddol o fewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes, gan gynnwys treuliad, atgynhyrchu, twf a datblygiad a llaetha. Bydd myfyrwyr wedyn yn astudio organebau sy'n effeithio ar y swyddogaeth o fewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes fel bacteria / protosoa / ffyngau, parasitiaid a rhai arthropodau. Addysgir ffeithiau grwpiau o anifeiliaid gwahanol, ee arthropodau, ar yr ecosystem amaethyddol yn ei gyfanrwydd. Bydd myfyrwyr yn cael sylfaen dda o swyddogaethau anifeiliaid a rhyngweithiadau yn gysylltiedig a'r amgylchedd amaethyddol.
Cynnwys
- Cyflwyniad i'r fodiwl a endocrinoleg
- Atgynhyrchu
- Treulio
- Treulio & resbiradaeth
- System cardiofasgwlar & thermoreolaidd Sesiwn ymarferol: Dyraniad systemau treulio deafa a mochyn
- Asesiad cwis hanner tymor
- Twf a datblygiad
- Cyhyrau
- System nerfol
- System nerfol/llaetha
- Llaetha / adolygiad Semester 2
- Cyflwyniad i amrywiaeth, ffylogenaidd, ac ecosystem y fferm
- Heintiau firaol & bacteriol yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes
- Heintiau bacteriol yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes; TB
- Heintiau ffwngaidd a protosoal yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes; TB
- Heintiau gan helminthau yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes Sesiwn ymarferol: Dosbarth ymarferol ar helminthau
- Asesiad cwis hanner tymor; arthropodau
- Imiwnedd
- Arthropodau
- Anifeiliaid eraill sy'n bwysig i ecosystem y fferm
- Ecosystem y fferm / adolygiad.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad ac aseiniadau. Rhoddir adborth ar yr asesiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu trwy'r asesiadau ymarferol. |
Datrys Problemau | Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i gael profiad mewn cynllunio, gweithredu, dehongli data ac ysgrifennu asesiadau ar ffisioleg anifeiliad gan ddefnyddio modelau o anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn datblygu dulliau creadigol i gynllunio arbrofion, gwerthuso'n feirniadol eu hatebion arfaethedig ac adeiladu cynigion rhesymegol mewn ymateb i'r her arbrofol. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau / grwpiau bach yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllyn arbrofol a gweithio'n effeithiol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol. Fydd hyn yn cael ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a bodloni terfynau amser ar gyfer yr aseiniadau a'r arholiad. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Bydd rhai o'r rhain yn cael eu hasesu yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth yn yr asesiadau. |
Rhifedd | Casglu a chraffu data o ran ansawdd a maint. Dehongli data. Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn yr aseiniad a bydd yr adborth yn cael ei roi yno hefyd. |
Sgiliau pwnc penodol | Dyrannu anifeiliaid allweddol er mwyn deall bioleg anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r lleoliad amaethyddol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd yr aseiniadau a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr i ymchwilio i bynciau y tu hwnt i'r dyfnder yn deunydd y ddarlithoedd. Bydd gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn cael eu defnyddio. Bydd sut i wneud hyn yn cael ei drafod mewn darlithoedd. Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu hasesu yn yr arholiad a'r aseiniad. |
Technoleg Gwybodaeth | Mynediad i'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lenyddiaeth wrth baratoi ar gyfer yr aseiniadau a'r arholiad. Bydd defnyddio technoleg gwybodaeth yn cael ei asesu yn yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar yr aseiniad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4