Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr | 50% |
Asesiad Semester | Adroddiad (50 munud - mewn ddarlith) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Amlinellu eu dosbarthiad mewn ystod o systemau priodol;
2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar eu datblygiad;
3. Egluro rol dyn yn eu datblygiad hanesyddol;
4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol ohonynt a phynciau sy'n codi o ganlyniad;
5. Adnabod eu gwerth, eu statws a'u potensial o ran cadwraeth.
Cynnwys
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd ar. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethu fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Adroddiadau i'w hysgrifennu mewn arddull ysgrifennu gwyddonol briodol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Sgiliau maes. |
Datrys Problemau | |
Gwaith Tim | Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o adroddiad a asesir. |
Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion yn y maes. |
Sgiliau ymchwil | Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data. |
Technoleg Gwybodaeth | Cyflwynir data ar ffurf graffiau gan ddefnyddio Excel mewn adroddiadau a asesir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4