Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad 1 Portffolio Datblygu Gwersi a Myfyrio: Cynllunio a Gwerthuso Gwersi (yn seiliedig ar olyniaeth o wersi) (2,500 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 Portffolio Datblygu Gwers a Myfyrio: Astudiaeth Achos - datblygu a chaffael sgiliau dysgwr allweddol i gynnwys amddiffyniad llafar i gyfoedion, tiwtor a mentor (2,500 gair) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1 Portffolio Datblygu Gwersi a Myfyrio: Cynllunio a Gwerthuso Gwersi (yn seiliedig ar olyniaeth o wersi) (2,500 gair) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2 Portffolio Datblygu Gwers a Myfyrio: Astudiaeth Achos - datblygu a chaffael sgiliau dysgwr allweddol i gynnwys amddiffyniad llafar i gyfoedion, tiwtor a mentor (2,500 gair) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r cysyniadau a'r gweithdrefnau technegol sy'n gysylltiedig â dylunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;
2. Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif faterion i'w hystyried wrth ddylunio trefniadau asesu priodol;
3. Gwerthuso gwers yn feirniadol trwy dynnu ar ddata perfformiad dysgwyr a chyfiawnhau sut mae targedau dysgwyr yn cael eu gosod;
4. Dangos dealltwriaeth feirniadol o werthuso gwersi trwy asesu cymheiriaid ar werthusiad gwersi cyfoed arall;
5. Gwerthuso'n feirniadol ddatblygiad sgil dysgwr allweddol a'i gaffaeliad gan ddysgwyr;
6. Cyflwyno’n feirniadol amddiffyniad llafar o ddatblygiad a chaffaeliad sgiliau allweddol dysgwr;
7. Myfyrio'n feirniadol ar effeithiolrwydd cynllun gwersi.
Disgrifiad cryno
Dyluniwyd y modiwl craidd hwn i fodloni Cylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif: 008/2017, Meini Prawf ar Gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Athrawon Cychwynnol yng Nghymru. Mae'r modiwl hwn yn rhoi pwyslais cryf ar asesu, ei gysyniadau technegol, ei ddyluniad a'i ddatblygiad, a'i ddefnydd. Oherwydd natur integredig y rhaglen byddwch yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o strategaethau asesu ar draws y sectorau Cynradd ac Uwchradd. Bydd y profiadau estynedig hyn yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ddofn o werthuso dysgwyr a gwersi, a'i bwysigrwydd wrth lywio targedau dysgwyr a chynlluniau gwersi dilynol. Byddwch hefyd yn barod i ddatblygu sgiliau allweddol ac i asesu sut mae dysgwyr yn ennill sgiliau allweddol.
Cynnwys
Bydd pob uned yn cynnwys cyfuniad dwy awr o ddarlithoedd a seminarau. Bydd y rhain yn darparu'r egwyddorion sylfaenol y mae'n rhaid eu defnyddio ar ymarfer addysgu.
Uned 1 - Y broses asesu: profiad a chwestiynau. Pam asesu? Beth sy’n gwneud asesiad ‘da’? - Rhai cysyniadau allweddol fel dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau. - Y cysylltiad rhwng cwricwlwm, addysgeg ac asesu.
Uned 2 - Dibenion a swyddogaethau asesu. - Deall dulliau asesu - Y berthynas rhwng asesiad ffurfiannol a chrynodol. - Rôl asesu wrth ddatblygu cymhelliant i ddysgu.
Uned 3 - Asesu ar gyfer dysgu: pwrpas, amodau, gwerthoedd, egwyddorion ac enghreifftiau. - Hyrwyddo dysgu ymreolaethol fel y nod eithaf. - Dysgu proffesiynol athrawon fel amod ar gyfer datblygu asesiad ystafell ddosbarth effeithiol ar gyfer dysgu.
Uned 4 - Dylunio cynllun asesu: manyleb, cwmpas a dibenion. - Adolygiad o systemau Asesu: Cwricwlwm Cenedlaethol; Llwybr 14-19 - TGAU, Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru; Dyfodol Llwyddiannus
Uned 5 - Data gwerthuso ac asesu - Defnyddio data asesu yn effeithiol - Hunanwerthuso ysgolion yn arwain at wella ysgolion
Uned 6 - Sgiliau cwestiynu ac adborth - Cwestiynu ar lefel uwch
Uned 7 - Gwerthuso sgiliau allweddol: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
Uned 8 - Cofnodi asesiad - Cyfleu canlyniadau asesu i ddysgwyr, athrawon a rhieni
Uned 9 - Hunan-fyfyrio a gwerthuso myfyrwyr. - Cyflwyniad i asesiad cymheiriaid. - Asesiad cymheiriaid o athrawon dan hyfforddiant
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn trafodaethau seminar (prifysgol ac ysgol bartner arweiniol) ac wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrio beirniadol yn cael ei ddatblygu trwy aseiniadau ysgrifenedig yn ogystal â thrwy asesiadau cymheiriaid a gweithgareddau yn ystod seminarau a lleoliadau ysgol. Mae cryfderau a blaenoriaethau athrawon dan hyfforddiant ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol, yn ffurfio elfen o'r portffolio. Bydd cwblhau'r portffolio yn galluogi myfyrwyr i nodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n cadarnhau eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i lywio eu Pasbort Dysgu Proffesiynol. |
Datrys Problemau | Bydd gofyn i athrawon dan hyfforddiant werthuso cyrhaeddiad dysgwyr. I wneud hyn bydd yn rhaid iddynt ddylunio a gweithredu'r strategaethau asesu mwyaf priodol ar gyfer ystod o alluoedd dysgwyr. |
Gwaith Tim | Bydd gweithgareddau seminar yn cynnwys gwaith grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd asesu ar gyfer dysgu yn cael ei ymgorffori mewn llawer o sesiynau i ganiatau i ddysgwyr fyfyrio ar eu perfformaid eu hunain ac i ddatblygu strategaethau i wella. Bydd cymryd rhan mewn asesiadau cymheiriad yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i gael dealltwriaeth feirniadol ddyfnach o asesu. Anogir athrawon dan hyfforddiant i archwilio eu profiadau Arbenigedd a Chyfoethogi yn eu Pasbort Dysgu Proffesiynol. |
Rhifedd | Bydd data cyrhaeddiad perfformiad myfyrwyr a dosbarthiadau unigol yn cael ei ystyried gyda’r pwrpas o ddangos ansawdd dysgu dysgwyr. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau canlynol sy'n ganolog i grefft asesu, megis: dadansoddi data, gwerthuso, gosod targedau, sgiliau meddwl, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd ymchwil yn cael ei ddatblygu trwy gydol y modiwl ond yn enwedig o ran dylunio a datblygu asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd pob aseiniad wedi ei gyflwyno ar brosesydd geiriau a bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG wrth ymchwilio i'w haseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7