Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Tasg iaith 1 Trawsieithiad 500 gair | 30% |
Asesiad Semester | Tasg cyflwyno Tasg Cyflwyno: Asesir sgiliau cyflwyno’r myfyrwyr yn y cyflwyniad llafar a asesir fel rhan o’r dystysgrif gyfan | 40% |
Asesiad Semester | Tasg iaith 2 Adroddiad ysgrifenedig 1000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall y gwahaniaeth rhwng amryw gyweiriau yn y Gymraeg
Ysgrifennu Cymraeg academaidd cywir.
Gwneud cyflwyniad llafar yn hyderus ar gyfer amryw gynulleidfaoedd a sefyllfaoedd.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gywair ac arddull academaidd wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Modiwl a ddysgir o bell yw hi fel rhan o’r Tystysgrif Addysg Uwch yn y Dyniaethau a’r Dystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Cymdeithasol.
Nod
Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr y Dystysgrif Addysg Uwch yn y Dyniaethau yn ogystal ^a’r Dystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Cymdeithasol sgiliau iaith priodol yn allweddol i fyfyrwyr ym mhob maes.
Cynnwys
1. Beth yw cywair academaidd?
2. Sut i ysgrifennu’n academaidd – defnydd o ferfau cryno, yr amhersonol, y negydd ffurfiol ayyb
3. Trawsieithu
4. Defnydd o dermau technegol
5. Defnydd o feddalwedd ieithyddol megis Cysill
6. Sgiliau Llafar a Chyflwyno
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4