Module Information

Cod y Modiwl
TC21320
Teitl y Modiwl
Sgiliau Sgriptio
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Portffolio Ymarferion (Cyfwerth â 2,500 o eiriau)  40%
Asesiad Semester 2. Sgript Terfynol (yn cymryd hyd at 30 munud i’w pherfformio)  60%
Asesiad Ailsefyll 1. Portffolio Ymarferion (Cyfwerth â 2,500 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll 2. Sgript Terfynol (yn cymryd hyd at 30 munud i’w pherfformio)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Arddangos gallu i fynegi’n ysgrifenedig hanfodion ffurfiol sgript ddramataidd effeithiol, gan gynnwys ysgrifennu monolog a/neu ddeialog; creu cymeriad(au) dychmygus a strwythur dramataidd priodol.

2. Arddangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng ffurf a chynnwys, gan ysgrifennu darn gorffenedig sydd yn adlewyrchu terfynau ymarferol tasg benodedig.

3. Gallu adlewyrchu yn huawdl ar broses greadigol, ac olrhain datblygiad cynnyrch gorffenedig o’i darddiad.

4. Cyflwyno sgript ysgrifenedig i amserlen benodedig wedi’i olygu mewn modd ac i safon broffesiynol.

Nod

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddechrau datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ysgrifennu sgript ddramataidd a fydd yn cymryd hyd at hanner awr i’w berfformio. Cynhelir gweithdai ysgrifennu a fydd yn archwilio hanfodion strwythur a thechnegau dramataidd, a hynny trwy ddadansoddi testunau, ymarferion, a thrwy arweiniad siaradwyr gwadd.

Mae strwythur tenau'r modiwl, ynghyd â’r disgwyliadau a roddir ar y myfyrwyr i weithio’n bennaf yn annibynnol yn yr ail semester, yn eu paratoi ar gyfer yr annibyniaeth gynyddol ar roddir iddynt ym mlwyddyn olaf eu cynllun gradd. Bydd modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymhellach ym modiwl TC31700/40 Ysgrifennu Drama yn y drydedd flwyddyn.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i nifer o'r sgiliau sylfaenol sy'n berthnasol i'r grefft o ysgrifennu sgriptiau dramataidd, gan gynnwys ymateb i sbardun, trefnu amser, canoli ar dasgau penodol o fewn amserlen benodedig, sgiliau cynllunio a pharatoi, sgiliau llunio monolog a deialog, y grefft o lunio cymeriad, sgiliau adolygu a golygu ac ymateb yn bositif i feirniadaeth allanol.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
Darlithoedd: 11 x 2 awr yr wythnos (Semester 1)
Seminarau/Tiwtorialau: 4 x sesiwn hanner awr o diwtora unigol (Semester 2)

Bydd y gweithdy agoriadol yn cynnig sylfaen ar gyfer y gwaith creadigol ar hyd y modiwl, gan awgrymu dulliau o ganfod ysbrydoliaeth, strategaethau a thechnegau ar gyfer ymchwil a chyfansoddi a chofnodi datblygiad y prosiect terfynol. Strwythurir y gweithdai canlynol yn ôl pum bloc o ddwy sesiwn yr un; bydd sesiwn gyntaf pob bloc yn cael ei arwain gan ddramodydd gwadd ac yn canolbwyntio ar elfen benodol o ysgrifennu drama.

Cynhelir cwrs preswyl dwys am ddau ddiwrnod yn gynnar yn yr ail semester.

Strwythur arfaethedig sesiynau’r semester cyntaf:

Sesiwn 1: Chwilio a Chanfod Ysbrydoliaeth
Sesiwn 2: Strwythur Dramataidd (1)
Sesiwn 3: Strwythur Dramataidd (2)
Sesiwn 4: Creu Cymeriad (1)
Sesiwn 5: Creu Cymeriad (2)
Sesiwn 6: Monolog (1)
Sesiwn 7: Monolog (2)
Sesiwn 8: Deialog (1)
Sesiwn 9: Deialog (2)
Sesiwn 10: Creu Cyfanwaith (1)
Sesiwn 11: Creu Cyfanwaith (2)

Fe fydd y penwythnos dwys yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gyda chorff sylweddol o waith newydd sgriptwyr ifanc eraill. Bydd hefyd yn darparu cyfle i fyfyrwyr dderbyn sylwadau gan sgriptwyr proffesiynol ar y gwaith a'r syniadau a ddyfeisiwyd ganddynt yn ystod y semester cyntaf.

Bydd y sesiynau twitora un-i-un yn rhoi cyfle i adolygu a thrafod y gwaith gyda’r tiwtor, a’i baratoi ar gyfer ei gyflwyno’n derfynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd pwyslais arbennig ar sgiliau cyfathrebu yn y modiwl: disgwylir i'r myfyrwyr ystyried a datblygu gwahanol ddulliau o gyfathrebu gweledigaeth ddramataidd wrth lunio darnau ysgrifenedig, ac fe fydd y gweithdai ymarferol a'r sesiynau tiwtora yn gosod pwyslais arbennig iawn ar y gallu i gyfathrebu wrth drafod problemau a gosod nodau ymarferol i'w cyflawni.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y profiad o weithio'n ddwys ar ddarn o waith creadigol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o sgiliau a fyddai'n angenrheidiol petaent yn dilyn gyrfa broffesiynol fel awdur sgriptiau.
Datrys Problemau Un o brif dasgau ymarferol y modiwl fydd datblygu sgiliau ymarferol i ddatrys y problemau creadigol sy'n codi wrth geisio llunio sgript ddramataidd orffenedig, ac wrth geisio dychmygu pa fath o amodau perfformio a chynhyrchu a fydd fwyaf cymwys ar gyfer llwyfannu’r deunydd.
Gwaith Tim Ni asesir sgiliau gwaith tîm yn ystod y modiwl, ond ar gyfer ac yn ystod y penwythnos dwys bydd angen i’r myfyrwyr weithio gydag ymarferwyr theatr broffesiynol a myfyrwyr o sefydliadau eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe roddir cyfle pwysig i'r myfyrwyr ddatblygu eu dysgu a gwella eu perfformiad unigol yn ystod y modiwl trwy gyflwyno aseiniad paratoadol cyn mynd ati i greu darn o waith gorffenedig terfynol. Fe fydd y broses o drafod y deunyddiau paratoadol ynghyd a'r adborth a dderbynnir ar ôl cyflwyno'r aseiniad cyntaf yn allweddol bwysig wrth gynnig persbectif ar y brif dasg ymarferol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Erbyn diwedd y modiwl, bydd disgwyl i’r myfyrwyr fod wedi ysgrifennu sgript a fydd yn cymryd hyd at hanner awr i’w pherfformio. Bydd angen i'r sgript orffenedig fod wedi’i olygu a’i osod i adlewyrchu’r disgwyliadau a chonfensiynau pwnc-benodol.
Sgiliau ymchwil Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyriwr ystyried sut i gael gwybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer creu a diffinio cymeriadau a/neu sefyllfa ddramataidd neilltuol. Er nad asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, fe fydd ansawdd y gwaith ymchwil yn cyfrannu'n bwysig at lwyddiant yr aseiniad terfynol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u sgriptiau wedi'u prosesu'n eiriol; ac fe fydd y gwaith ymchwil a gyflawnir wrth baratoi'r aseiniadau ymarferol yn gofyn gallu i weithio'n effeithiol ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5