Module Information

Cod y Modiwl
TC10220
Teitl y Modiwl
Astudio Ffilm a'r Cyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1  50%
Asesiad Semester Traethawd 2  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1  (dewis o deitlau newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2  (dewis o deitlau newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o brif ddamcaniaethau ffilm a'r cyfryngau
2. Dadansoddi testunau cyfryngol gweledol yn feirniadol
3. Trafod testunau cyfryngol gweledol yn eu cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol ehangach
4. Ysgrifennu traethodau academaidd sy'n tystio i feddiant sgiliau beirniadaethol a dehongliadol

Disgrifiad cryno

Cyflwynir myfyrwyr i sylfaen astudiaeth academaidd o ffilm a chyfryngau gan gynnwys darlledu a chyfrygnau digidol. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i datblygiad ffilm a'r cyfryngau fel ffenomenon diwylliannol a hcymdeithasol. Cynllunir y modiwl er mwyn cynnig cyflwyniad clir a thrylwyr i brif feysydd astudiaeth academaidd o ffilm a'r cyfryngau. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod cysyniadau amrywiol trwy gynnig astudiaethau a gorolwg hanesyddol o fewn cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Ymhlith y testunau a astudir bydd y cysyniad o sinemau genedlaethol, auteuraeth, ffilm fel naratif, hanes darlledu a genre.

Cynnwys

Sesiynau Dysgu:
10 x 1 awr seminar - semester 1
10 x 3 awr darlith/sesiwn wylio - semester 1

10 x 1 awr seminar - semester 2
10 x 3 awr darlith/sesiwn wylio - semester 2

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, trafodaetu seminar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau penodol, ac cyhwanegu at sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac aseiniadau. Er na asesir y priodoleddau yma'n ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr i drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd-fyfyrwyr a'u tiwtor. Rhoddir adborth manwl ar y ffurflen asesu.
Sgiliau pwnc penodol Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4