Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad gwerthuso (1500 gair.) | 30% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar (20 munud.) | 10% |
Asesiad Semester | Cynnig prosiect (3000 gair.) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad gweithle penodol.
2. Gwerthuso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd yn ystod cyfnod o brofiad gwaith.
3. Dewis a chymhwyso dulliau rheoli priodol i brosiect cefn gwlad.
4. Defnyddio technoleg gwybodaeth gan gynnwys Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i helpu i gofnodi ac arddangos data a gwneud penderfyniadau rheoli priodol.
5. Cynhyrchu negeseuon gan ddefnyddio cyfryngau priodol ar gyfer gwahanol amcanion a chynulleidfaoedd.
Disgrifiad cryno
Mae rheoli safleoedd a phrosiectau cefn gwlad yn gymhleth ac mae’n gofyn am amrywiaeth eang o sgiliau. Mae’r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar y profiadau a gawsant yn ystod cyfnod o gyflogaeth berthnasol yng nghefn gwlad ac mae’n adeiladu ar hyn drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol hanfodol mewn meysydd megis rheoli adnoddau, cynllunio prosiectau, a rheoli safleoedd a gweithluoedd. Bydd sgiliau TG a enillwyd mewn modiwlau blaenorol yn cael eu datblygu mewn perthynas â chymwysiadau ymarferol yn y gweithle, a bydd y defnydd o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), sy’n hanfodol i lawer agwedd ar reoli cefn gwlad, yn cael ei gyflwyno.
Cynnwys
• Cynigion prosiect a chynllunio.
• Rheoli safleoedd cefn gwlad a staff.
• Defnyddio technoleg gwybodaeth yn y gweithle cefn gwlad
• Cyfathrebu effeithiol ym maes rheoli cefn gwlad.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Thema ganolog i’r modiwl, a asesir trwy’r aseiniadau. |
Datrys Problemau | Gwneir hyn trwy’r gweithdai a’r aseiniad astudiaeth achos. |
Gwaith Tim | Bydd hyn yn cael ei ystyried yn yr adroddiad gwerthuso, ond ni fydd yn cael ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau. |
Rhifedd | Gwneir hyn trwy’r gweithdai a’r aseiniad astudiaeth achos. |
Sgiliau pwnc penodol | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau. |
Sgiliau ymchwil | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth, yn enwedig Sustemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn nodwedd o’r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5