Module Information

Cod y Modiwl
MT25200
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i gymhwysiadau
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 4 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Semester Exam  (Arholiad Ysgrifenedig)   50%
Asesiad Semester 2 x prawf arlein yn Semester 1  Taflenni gwaith semester 1  30%
Asesiad Semester 2 aseiniad yn Semester 2  Aseiniadau semester 2 x 2   20%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Supplementary Exam  (Arholiad Ysgrifenedig)   100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gallu i ysgrifennu rhaglenni byr yn Python

Arddangos ymwybyddiaeth o ymarfer da wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer cyfrifiant rhifiadol

Llunio polynomial neu sblein sy'n rhyngosod set o ddata

Deillio a chymhwyso dulliau rhifiadol safonal ar gyfer integru, a dadansoddi cyfeiliornad y dulliau yma

Darganfod isradd (au) hafaliad aflinol gan ddefynyddio dulliau rhifiadol safonal, ac arddangos ymwybyddiaeth o drefn cydgyfeiriant y dulliau yma

Cyfrifo brasamcanion rhifiadol o ddatrysiadau i broblemau gwerth cychwynnol gan ddefynddio dulliau un cam, ac arddangos ymwybyddiaeth o gydgyfeiriant a sefydlogrwydd y dulliau yma.

Nod

The semester 1 content on learning Python has been adjusted slightly so that it is suitable for mathematics students with minimal programming experience.

Disgrifiad cryno

Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna’n cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal â dadansoddiad o’r technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o’r dulliau rhifiadol.

Cynnwys

Semester 1

Addysgir y rhan python o’r modiwl (gan yr Adran Gyfrifiadureg) mewn dwy ddarlith 1 awr yr wythnos, lle bydd un ohonynt mewn darlithfa gyffredin, a’r llall mewn labordy cyfrifiadurol fel bod posib cyfuno cyflwyniadau byr ag arddangosiadau ymarferol. Bydd yna hefyd weithdy ymarferol un awr bob wythnos gan ddechrau o wythnos 2:

1. CYFLWYNIAD: Mathau, newidynnau, gosodiadau “if”, dolenni “for” a “while”. Y dehonglydd ac enrhifiad mynegiadau syml. Golygu, arbed a llwytho cod. Trin â ffeiliau.
2. STRWYTHURAU DATA: Rhestrau a geiriaduron. Araeau numpy.
3. FFWYTHIANNAU. Diffiniad ffwythiant, galw ffwythiant.
4. TREFNU COD PYTHON. Cynhyrchu dogfennaeth, darganfod a delio ag eithriadau, trefnu cod i fodiwlau.
5. DOSBARTHIADAU A GWRTHRYCHAU. Diffinio dosbarthiadau, enghreifftio gwrthrych. Etifeddiad.
6: PLOTIO: Trin data a plotio canlyniadau.

Semester 2

Addysgir y rhan dadansoddiad rhifiadol o’r cwrs mewn dwy ddarlith 1-awr bob wythnos (mewn darlithfeydd arferol) gyda dau weithdy cyfrifiadurol 2-awr atodol yn ystod y semester.
1. RHYNGOSODIAD POLYNOMIAL: Fformwla Lagrange. Fformwla Newton a gwahaniaethau rhaniedig. Fformwla gwahaniaethau ymlaen. Cyfeilornad rhyngosodiad. Rhyngosodiad sblein giwbig.
2. INTEGRU RHIFIADOL: Rheol trapesoidaidd. Rheol Simpson. Rheolau integru cyfansawdd. Cyfeilornad pedrwyedd. Integru Romberg. Rheolau pedrywedd Gaussiaidd.
3. DATRYSIAD I HAFALIADAU ANLLINOL MEWN UN NEWIDYN: Dull dwyrannu. Dulliau pwynt sefydlog a mapiadau cyfangu. Dull Newton. Gradd cydgyfeiriant.
4. PROBLEMAU GWERTH CYCHWYNOL: Bodolaeth ac unigrywedd datrysiadau. Dull Euler. Cyfeilornad cwtogiad lleol. Cysondeb. Cydgyfeiriant. Sefydlogrwydd. Dulliau un-cam cyffredin. Dull trapesoidaidd. Dulliau rhagweld a cywiro.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'n rhaid i atebion ysgrifenedig i ymarferion a dogfennaeth cod fod yn glir ac wedi'i strwythuro'n dda. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol i gynnydd llwyddiannus yn y cwrs.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd cwblhau tasgau (taflenni gwaith a thaflenni problemau) erbyn y dyddiadau cau yn hybu datblygiad personol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu sydd â galw mawr amdanynt.
Datrys Problemau Bydd ymarferion yn cael eu gosod a'u marcio. Bydd y rhain yn cynnwys deillio a cymhwyso dulliau rhifiadol a gwerthuso'u cyfeilornad.
Gwaith Tim Na
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain tuag at reoli amser er mwyn cwblhau gwaith mewn pryd, ac er mwyn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol rhwng darlithoedd a gweithdai. Dylent weithredu ar adborth, er enghraifft yr adborth yn y gweithdai ymarferol a roddir gan arddangoswyr ac adborth y darlithwyr wrth farcio gwaith.
Rhifedd Angenrheidol trwy gydol y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau rhaglennu, sgiliau dadfygio, sgiliau rhifedd, sgiliau dadansoddi rhifiadol.
Sgiliau ymchwil Defnyddio cyfrifiadur. Chwilio trwy ddogfennaeth iaith a’r llyfrgell.
Technoleg Gwybodaeth Gosodir ymarferion i fyfyrwyr mewn gweithdai sy'n cynnwys datblygu cod cyfrifiadurol. Bydd angen iddynt allu defnyddio cyfrifiaduron a chyfleusterau'r llyfrgell drwy gydol y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5