Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfywyr ailsefyll unrhyw asesiad a fethwyd yn unig | 100% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar yn trafod dulliau ymchwil yr ymgeisydd (20 munud) | 50% |
Asesiad Semester | Adroddiad beirniadol ar y sesiynau hyfforddi au gwerth (2000 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Bydd myfyrwyr yn medru arddangos rhychwant o sgiliau casglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau a thrwy wahanol gyfryngau.
Byddant yn medru asesu'n feirniadol ystyriaethau moesol a chyfreithiol wrth gynllunio a gwneud eu hymchwil, gan gynnwys hawlfraint, llen-lladrad, preifatrwydd, etc.
Byddant yn medru arddangos rhychwant o sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys ysgrifennu (traethodau, erthyglau, adolygiadau ac adroddiadau), darlithio, cyflwyno papurau seminar, siarad ar y cyfryngau, defnyddio'r rhyngrwyd, a sgyrsio'n anffurfiol.
Byddant yn medru deall sut y mae trefnu amser ac adnoddau yn effeithiol a chwblhau tasgau ymchwil yn brydlon ac i safon uchel.
Byddant wedi ystyried rhai o'r sgiliau allweddol sydd angen eu meithrin wrth ddysgu mewn addysg uwch.
Byddant wedi ystyried sut y mae gweithio'n effeithiol fel rhan o dim, a sut i roi cyngor academaidd a'i dderbyn.
Disgrifiad cryno
Darperir cyflwyniad i sgiliau ymchwil ac i agweddau ar ddatblygiad personol er mwyn cymhwyso myfyrwyr at waith ymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nod
Mae'r modiwl yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu nifer o sgiliau ymarferol, personol ac academaidd yn ogystal a sut i gywain gwybodaeth arbenigol ym maes llenyddiaeth a hanes a diwylliant Cymraeg, a sut i ysgrifennu traethawd graenus yn y Gymraeg.
Cynnwys
Y Traethawd Ymchwil
Cywain gwybodaeth
Ysgrifennu Academaidd
Cyflwyno ar Lafar
Cynllunio i'r Dyfodol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir: Gwybodaeth am brosesau cyfathrebu academaidd; Ymwybyddiaeth o strategaethau cyflwyno llafar; Dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ysgrifennu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau cynllunio a rheolau gyrfa mewn academia neu’r tu hwnt. |
Datrys Problemau | Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am broblemau ymchwil a chanfod y dulliau priodol i’w datrys. |
Gwaith Tim | Ymdrinnir â gweithio ag eraill mewn sawl gweithdy. Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir Y gallu i reoli amser astudio a defnyddio’r berthynas â’r arolygwr yn effeithiol; Y gallu i fyfyrio yn feirniadol ar eu hymchwil eu hunain. |
Rhifedd | Ymdrinnir â dulliau ymchwil, gan gynnwys defnyddio dulliau meintiol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir y gallu i egluro’r pwnc ymchwil i gynulleidfa leyg. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir: Ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o ffynonellau sy’n addas i feysydd ymchwil penodol; Gwybodaeth ar sut i gael gafael ar ddeunyddiau cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â materion megis cyfrinachedd, diogelu data a’r rheolau sy’n ymwneud â defnyddio eiddo deallusol. Ymwybyddiaeth o werth sgiliau rheoli gwybodaeth ar gyfer ymchwil effeithiol; Ymwybyddiaeth o’r elfennau sydd eu hangen i gynllunio a rheoli ymchwil ar gyfer traethawd ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir gallu wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, e-bost a chronfeydd data electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7