Module Information

Cod y Modiwl
HC32220
Teitl y Modiwl
Gwrthdaro a Chydfodolaeth: Cymru o’r Normaniaid hyd Glyndŵr
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 4 x Seminarau 1 Awr
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll (Ailsefyll) Traethawd 1 - 1 x 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll (Ailsefyll) Traethawd 2 - 1 x 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth fanwl o ddatblygiadau allweddol yng nghymdeithas, gwleidyddiaeth ac economi Cymru yn yr Oesoedd Canol.
2. Datblygu’r gallu i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol ynglŷn â hanes Cymru o gyfnod y Normaniaid hyd Glyndŵr ac i’w herio lle bo’n briodol.
3. Dadansoddi ac ymdrin yn feirniadol â gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd am Gymru’r Oesoedd Canol.
4. Adnabod ac asesu tystiolaeth hanesyddol briodol i gynhyrchu dadleuon yn ysgrifenedig am themâu yn hanes Cymru’r cyfnod.

Nod

Bwriad y modiwl yw caniatau i fyfyrwyr astudio mewn dyfnder gyfnod allweddol o hanes Cymru pan newidiwyd y wlad yn sylweddol gan ddyfodiad y Normaniaid, ymosodiadau gan frenhinoedd Lloegr ac ymgeisiau gan dywysogion Cymreig i uno’r wlad yn wleidyddol. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ymwneud â ffynonellau allweddol o’r cyfnod. Bydd y modiwl yn un o fodiwlau dewis trydedd flwyddyn cyfrwng Cymraeg yr Adran

Disgrifiad cryno

Mae’r cestyll a feddai Edward I yng Nghymru, sydd bellach yn adfeilion, yn atgof pwerus o oes o oresgyn a brwydro a barhai am nifer o ganrifoedd. Gan gychwyn gyda Goresgyniad y Normaniaid yn Lloegr a dyfodiad ymsefydlwyr Normanaidd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar ddeg, yn trafod esgyniad a chwymp tywysogion Cymru, ac yn gorffen gyda gwrthryfel Glyndŵr yn y bymthegfed ganrif, amcan y modiwl hwn yw cyflwyno’r cyfnod hwn o frwydro a chydfyw a luniai drosodd a thro hynt Cymru a’i phobl yn yr Oesoedd Canol. Bydd sefyllfa Cymru yn yr Oesoedd Canol yn cael ei gosod yn y cyd-destun ehangach, Ewropeaidd trwy asesu effaith gwleidyddiaeth, masnach, a rhyfel ar y gymdeithas yng Nghymru a’r berthynas rhwng yr elfennau hyn.

Cynnwys

DARLITHOEDD
1. Cyflwyniad a ffynonellau canoloesol
2. Dyfodiad y Normaniaid: sefydlu’r Mers
3. Normaniaid a thywysogion: y frwydr am oruchafiaeth
4. Y Normaniaid yng Nghymru: dylanwad ac effaith
5. Yr Arglwydd Rhys
6. Llywelyn ab Iorwerth
7. Llywelyn ap Gruffudd
8. Edward I a Chymru
9. Ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru
10. Cymdeithas ac economi
11. Eglwys Cymru yn yr Oesoedd Canol
12. Diwylliant
13. Y di-lais yng Nghymru’r Oesoedd Canol
14. Cymru wedi’r goncwest (i): tensiwn a gwrthdaro
15. Cymru wedi’r goncwest (ii): cydfyw a chydweithio
16. Owain Glyndŵr (i): cefnogaeth a gwrthwynebiad
17. Owain Glyndŵr (ii): canlyniadau
18. Casgliadau
SEMINARAU
1. Normaniaid a thywysogion: hanes dwy Gymru?
2. Y ddau Llywelyn: llunio gwladwriaeth Gymreig?
3. Cymru a’r cyfandir: cymdeithas ryngwladol?
4. Gwrthryfel Glyndŵr: gwrthryfel cenedlaethol?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6