Module Information

Cod y Modiwl
HA12320
Teitl y Modiwl
Hanes ar Waith
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Amrywiol 1 x Gweithgaredd Amrywiol 2 Awr
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 8 Awr
Darlith 8 x Darlithoedd 1 Awr
Llafar 1 x Gweithgaredd Llafar 2 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 3 Awr
Seminar 1 x Seminar 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  (2,000 gair)  60%
Asesiad Semester Asesiad llafar  Cyflwyniad  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2,000 gair)  60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig  (1,000 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o werth Hanes ym mywyd cyhoeddus.

2. Dangos dealltwriaeth o sut mae Hanes yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.

.3. Dangos gallu i ddefnyddio sgiliau allweddol

Disgrifiad cryno

Nid yw hanes yn bodoli mewn llyfrau neu ddarlithfeydd yn unig. Mae’r byd y tu allan i’r brifysgol yn cael ei siapio mewn ffyrdd arwyddocaol gan straeon am y gorffennol. Mae’r modiwl hwn wedi cael ei ddylunio i helpu myfyrwyr ymgymryd â’r straeon hynny, gan eu hannog i ystyried Hanes ym mywyd cyhoeddus. Trwy weithio mewn timau, bydd myfyrwyr yn ystyried ffyrdd ymarferol o ddefnyddio eu diddordebau personol eu hunain a’u harbenigedd mewn ffyrdd sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol hefyd a bydd yn darparu’r sgiliau sydd yn mynd i fod o ddefnydd mewn gyrfaoedd yn y dyfodol. Ar yr un pryd, bydd myfyrwyr yn magu dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae Hanes yn y sffêr gyhoeddus yn wahanol neu’n debyg i’r hanes a ysgrifennir gan haneswyr proffesiynol.

Cynnwys

Wythnos 1
Darlith 1: Hanes a Chymdeithas
Darlith 2: Hunaniaeth, Hanes a Threftadaeth

Wythnos 2
Darlith 3: Newyddiaduraeth ac Ymwybyddiaeth Hanesyddol
Darlith 4: Teledu, Ffilm a Hanes

Wythnos 3
Darlith 5: Hanes a Hysbysebu
Darlith 6: Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth y Gorffennol

Wythnos 4
Darlith 7: Hanes a’r Ysgol
Darlith 8: Hanes ac Adloniant

Wythnos 5
Gweithdy Cynllunio: 3 Awr

Wythnos 6
Sesiwn hyfforddiant 1-2 awr

Wythnos 7
Diwrnod Prosiect: 8 Awr

Wythnos 8
Seminar 1 awr er mwyn cwblhau’r prosiect a phenderfynu tasgau cyflwyniad llafar

Wythnos 9
Cyflwyniadau asesiedig: 2 awr (cyflwyniadau 20 munud ac wedyn trafodaeth dosbarth)

Wythnos 11
Dyddiad cau’r traethawd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae’r myfyrwyr yn cael eu hasesu’n llafar ac y mae angen iddynt gyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau eraill o’r grŵp yn ystod y gweithdy a’r prosiect.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r darlithiau i gyd yn canolbwyntio ar hanes fel gyrfa mewn un ffordd neu’i gilydd. Fel mae’r myfyrwyr yn canolbwyntio ar eu gwaith prosiect, bydd disgwyl iddynt ystyried eu gyrafoedd wedi iddynt gwblhau eu graddau. Mae’r modiwl i fod i’w helpu datblygu CV a hyder cynyddol am werth hanes yn y byd cyhoeddus.
Datrys Problemau Wedi’r gweithdai ddod i ben, mae’r myfyrwyr yn gweithio’n annibynnol ac yn rheoli eu hamser eu hunain. Byddan nhw’n datrys problemau sy’n codi yng nghyd-destunau galwedigaethol penodol.
Gwaith Tim Mae gwaith tïm yn rhan hanfodol o’r asesiadau a’r broses dysgu yn y gweithdai a’r prosiect.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae’r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy’n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae’n bosibl disgrifio’r modiwl fel ‘hanes cyhoeddus’, sy’n rhan annatod o unrhyw radd Hanes.
Sgiliau ymchwil Mae’r modiwl yn cynnwys cryn dipyn o ymchwil arlein ac y bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth, yn enwedig yng nghyd-destun gwaith paratoadol ar gyfer y gweithdy ac yn ystod y prosiect.
Technoleg Gwybodaeth Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4