Module Information

Cod y Modiwl
GW35820
Teitl y Modiwl
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 4 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cofnod dysgu  (1,000 gair)  20%
Asesiad Semester Traethawd 1  (2,000 gair)  40%
Asesiad Semester Traethawd 2  (2,000 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Papur byr yn lle'r cofnod dysgu  (1,000 gair)  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1  (2,000 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2  (2,000 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth fanwl a sustematig o ddamcaniaethau meddylwyr allweddol mewn damcaniaeth wleidyddol ryddfrydol gyfoes.
2. Dangos dealltwriaeth gysyniadol gadarn o syniadau canolog y damcaniaethau hynny sy’n cydfynd gyda’r pennawd ‘Cyfiawnder Byd-Eang’.
3. Gwerthuso’n feirniadol oblygiadau safbwyntiau ‘gwladoliaethol’ (statist) a chosmopolitanaidd i ddamcaniaeth gwleidyddiaeth ryngwladol.
4. Defnyddio Gwybodaeth fanwl o’r maes er mwyn cymharu a dadansoddi’n feirniadol y gwahanol safbwyntiau ar anghydraddoldeb byd-eang.
5. Gwerthuso mewn modd manwl a sustematig ystod o argymhellion polisi er mwyn cynorthwyo rhanbarthau llai datblygiedig.
6. Datblygu dadansoddiad beirniadol o oblygiadau normadol ystod o safbwyntiau ar is-ddatblygiad.
7. Trafod arwyddocâd ehangach a swyddogaeth damcaniaeth gwleidyddiaeth ryngwladol i faes Cysylltiadau Rhyngwladol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn ystyried tlodi byd-eang fel problem. Mae’n ymwneud yn bennaf gyda’r mater drwy ddamcaniaeth normadol, a damcaniaethau is-ddatblygiad – a’r argymhellion polisi cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn ymwneud gyda dadleuon athronyddol sy’n ymwneud gyda ‘chyfiawnder byd-eang’. Mae’r dadleuon hyn yn gyffredinol yn rhan o ddamcaniaeth wleidyddol rhyddfrydol gyfoes, yn arbennig y traddodiad sydd wedi ei ysbrydoli gan waith John Rawls, gan ganolbwyntio ar sut allwn gyfiawnhau cyfrifoldebau i ddieithriaid pell a sut mae gwireddu hyn orau. Bydd y modiwl hefyd yn edrych mewn cryn fanylder ar ddamcaniaethau empeiraidd sy’n bwydo i’r dadleuon hyn, gan werthuso ystod o bersbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad. Yn olaf, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar y dadleuon normadol ac empeiraidd a gwerthuso’r amrywiol argymhellion polisi sy’n codi o’r safbwyntiau hyn sy’n cystadlu â’i gilydd. Bydd y modiwl ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, gan ei fod yn fodiwl Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Mae’r pynciau i’w trafod yn cynnwys:

• Moderneiddio Gwleidyddol a Damcaniaeth System Ryngwladol: Safbwynt Hanesyddol
• Masnach Deg: Economi Wleidyddol Ryngwladol “Gyfiawn”?
• Adeiladu Gwladwriaethau a Democrateiddio: Cymorth gwellhaol neu ymyrraeth na ellir ei gyfiawnhau?
• Cymorth Datblygiad: Ddylen ni neu Ddylen ni Ddim?
• Damcaniaeth Wleidyddol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol: Gwneud lle i’r “moesol” mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
• Rhyddfrydiaeth Gosmopolitanaidd: Cyfiawnhau dyletswydd i ddieithriaid pell
• Rhyddfrydiaeth Gymdeithasol: Cyfiawnhau dylestwyddau i wladwriaethau llai datblygiedig
• Dadlau Dyletswyddau: Oes arnon ni fwy neu lai i bobloedd neu bersonau?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut orau i fanteisio ar hynny. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio’r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc, canolbwynt ac amcnaion y ddadl neu’r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno dau draethawd, bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata ac amcangyfrif ateb i’r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu’n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli, ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’r cyflwyniadau. Bydd yr angen i orffen gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau yn hoelio sylw’r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy’n benodol i’r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Arddangos technegau ymchwil sy’n benodol i’r pwnc Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth
Sgiliau ymchwil Gofynnir i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith i’w asesu. Bydd hynny’n golygu defnyddio ffynonellau’r cyfryngau a’r we, yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu’n rhannol ar eu gallu i ddwyn ynghyd adnoddau priodol a diddorol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu eu gwaith. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6