Module Information

Cod y Modiwl
GC23120
Teitl y Modiwl
Gaeleg yr Alban: cyflwyniad i'r iaith
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cyflwyniad i Wyddeleg Modern (lefel 1)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymarferion wythnosol  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  60%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Byddwch yn gallu adnabod a defnyddio'r rhan fwyaf o bwyntiau gramadegol a chystrawennol Gaeleg yr Alban.

2. Byddwch yn gallu darllen gyda chymorth geiriadur amryw ddarnau rhyddiaith yng Ngaeleg yr Alban.

3. Byddwch yn gyfarwydd â rhai agweddau ar draddodiadau llafar Gaeleg yr Alban.

4. Byddwch yn gallu cyfieithu brawddegau i'r Gaeleg.

5. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yng Ngaeleg yr Alban.

Disgrifiad cryno


Cyflwyniad i brif nodweddion yr iaith fodern ynghyd ag astudiaeth o rai gweithiau llenyddol, megis storiau byrion a cherddi cyfoes.

Cynnwys

Cynhelir 40 gweithdy 1 awr. Cyflwynir y pynciau, isod, gan ddarlithydd a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Technoleg Gwybodaeth Prosesu geiriau, cyrchu a defnyddio adnoddau electronig; defnyddio’r BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5