Module Information

Cod y Modiwl
FG34410
Teitl y Modiwl
Addysgu Ffiseg drwy brofiad gwaith mewn ysgol
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cwblhau Blwyddyn 2 ffiseg yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 2 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dyddiadur ysgol  10 x 500 gair (cyfanswm 5000 gair)  60%
Asesiad Semester Cynllun gwers a myfyrio  (2000 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Fel y pennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion addysgu ffiseg mewn ysgol.

2. Dangos dealltwriaeth o gyfathrebu ac arddangos cysyniadau ffiseg ar lefel sy'n addas i blant ysgol.

3. Dangos sgiliau trefnu a myfyrio wrth gadw dyddiadur o weithgareddau yn ystod y sesiynau yn yr ysgol, gan ddangos datblygiad yn ystod y semester.

4. Paratoi a gweithredu gweithgaredd addysgu penodol gyda'r nod o gefnogi addysgu yn yr ysgol.

5. Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd addysgu STEM a'r heriau sy'n gysylltiedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i israddedigion Ffiseg mewn ysgol.

Bydd sesiwn gwybodaeth / hyfforddiant ffurfiol fer cyn y profiad gwaith mewn ysgol. Yn ystod y sesiynau yn yr ysgol, bydd y myfyrwyr yn arsylwi ac yn cofnodi gwahanol sesiynau addysgu i ddechrau. Dros y semester byddant yn adeiladu i weithgareddau addysgu dan oruchwyliaeth ar lefel briodol.

Mae'n bosibl y bydd llefydd ar y modiwl yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiad lleoliadau ac adnoddau. Mae'r llefydd hefyd yn ddibynnol ar wiriadau DBS ar gyfer pob myfyriwr.

Cynnwys

Nid oes maes llafur ffurfiol. Bydd y myfyrwyr yn:
- mynychu sesiwn hyfforddi a gwybodaeth ffurfiol fer
- ennill profiad mewn ysgol leol: 10 hanner diwrnod o dan fentora athro
- arsylwi sesiynau addysgu
- cynnal gweithgareddau addysgu ar raddfa fechan, gan gynnwys cynllunio a myfyrio
- cynllunio, gweithredu a myfyrio ar sesiwn addysgu dan oruchwyliaeth briodol

Asesir y modiwl trwy ddyddiadur arsylwi gwersi (sy'n cynnwys cofnod presenoldeb), a gweithgaredd addysgu a gynlluniwyd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn ganolog i weithgareddau addysgu'r myfyriwr, yn ogystal â'u hasesiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio'n benodol i baratoi myfyrwyr i yrfa mewn addysgu.
Datrys Problemau Yn ganolog mewn ffiseg ac yn hanfodol ar gyfer addysgu ffiseg mewn ysgolion.
Gwaith Tim Yn ganolog i'r myfyriwr yn eu lleoliad ysgol, wrth ymgysylltu â'u mentor a staff ysgol eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y dyddiadur, yn ogystal â disgwyliadau eu mentoriaid ysgol, yn annog datblygiad parhaus o'u perfformiad.
Rhifedd Yn ganolog i addysgu ffiseg mewn ysgolion.
Sgiliau pwnc penodol Dylunio a gweithredu arbrofion ar lefel sy'n briodol i ysgolion.
Sgiliau ymchwil Bydd y myfyriwr yn ymchwilio gwybodaeth am y pwnc, gan ddefnyddio'r llyfrgell a'r rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Rhaid i'r myfyriwr ymchwilio gwybodaeth am eu hasesiadau gan ddefnyddio'r rhyngrwyd (ee paratoi gweithgareddau priodol ar gyfer addysgu).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6