Module Information
Cod y Modiwl
FG15510
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc neu Gwyddor y Gofod a Roboteg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dyddiadur Labordy Ysgrifenedig yn wythnosol. Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd y nodiadau a wneir yn ystod arbrawf tair awr. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol. Y gofyniad lleiaf yw 200 gair yr arbrawf. | 30% |
Asesiad Semester | 1 x Adroddiad Labordy 1000 gair | 30% |
Asesiad Semester | Llyfr-gwaith Ysgrifenedig 40 awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru:
1. Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
2. Cynhyrchu adroddiad labordy gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau.
3. Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
4. Gweithio gydag eraill mewn modd ystyriol, gan rannu'r dyletswyddau ar gyfer gweithio'n effeithlon.
5. Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.
Disgrifiad cryno
Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Disgwylir taflen waith sy'n manylu ar ansicrwydd mewn mesuriadau a chywirdeb modelau. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.

Cynnwys
• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad. Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yma yn cynnwys testunau rhagarweiniol mewn ffiseg.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad. Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yma yn cynnwys testunau rhagarweiniol mewn ffiseg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf. |
Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gyffredinol yn cynnal yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau. |
Rhifedd | Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4