Module Information

Cod y Modiwl
DA28700
Teitl y Modiwl
Lleoli Gwleidyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 19 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad lle gwelir y cwestiynau o flaen llaw  50%
Asesiad Semester Traethawd  (2500 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2500 gair)  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad lle gwelir y cwestiynau o flaen llaw  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Adnabod, disgrifio, ac asesu dadleuon cyfoes mewn daearyddiaeth wleidyddol.

2. Ystyried yn feirniadol ystod o ffynonellau a thestunau o ddiddordeb i ddaearyddwyr gwleidyddol, yn amrywio o destunau academaidd i ddogfennau polisi.

3. Dangos tystiolaeth o ddyfnder darllen mewn daearyddiaeth wleidyddol.

4. Mynegi dadl ar ffurf ysgrifenedig am arwyddocâd ymchwil academaidd mewn maes penodol o ddaearyddiaeth wleidyddol.

5. Cymhwyso a gwerthuso cysyniadau daearyddol gwleidyddol yng nghyd-destun enghreifftiau ac astudiaethau achos a dynnir o astudio annibynnol.

Disgrifiad cryno

Darpara’r modiwl gyda gyflwyniad i faes pwysig daearyddiaeth wleidyddol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn. Gan dynnu’n benodol ar ymchwil sydd ar waith yn y grŵp ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd a thu hwnt, cyflwyna’r modiwl ddadleuon academaidd allweddol yn y maes i fyfyrwyr, gan nodi eu cymhwysedd tu hwnt i’r academi drwy ddefnydd polisi ac astudiaethau achos eraill.

Cynnwys

Rhennir y modiwl yn ddau: ‘Y wladwriaeth, tiriogaeth, a grym’ a ‘pobl, grym, a chyfranogiad’. Gall y thema ‘Y wladwriaeth, tiriogaeth, a grym’ gynnwys (ond heb fod wedi cyfyngu i): gwladweinyddiaeth, daearwleidyddiaeth feirniadol, y genedl, y wladwriaeth, ac aildrefnu economaidd. Dall darlithoedd yn y thema ‘pobl, grym, a chyfranogiad’ gynnwys (ond heb fod wedi cyfyngu i): gwrthdystio, dinasyddiaeth, a daearyddiaeth etholiadol.

Bydd rhan cynta’r modiwl yn cynnwys 8 x darlith 2-awr a dau weithdy i’w dysgu yn ystod semester 1. Bydd yr ail ran, a addysgir yn semester 2, yn cynnwys 8 x darlith 2 awr a 2 x gweithdy 2-awr. Asesir yr adran gyntaf gan arholiad yn ystod cyfnod arholi semester un, tra asesir yr ail rhan gan draethawd 2,500 gair. Noder y gall trefn y ddau adran hyn amrywio yn sgil argaeledd staff. Nid oes unrhyw rheswm pedagogaidd am eu haddysgu mewn drefn arbennig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblyga’r modiwl fedrau cyfathrebu ysgrifenedig wrth gwblhau’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y traethawd yn profi gallu myfyrwyr i drafod natur gymwysedig daearyddiaeth wleidyddol.
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu medrau datrys problemau myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau, a chwblhau arferion datrys problemau bychain yn ystod y darlithoedd.
Gwaith Tim Bydd y darlithoedd yn cynnwys gweithgareddau datrys problemau a thrafodaethau a fydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin sgiliau gwaith tîm ac i rannu eu syniadau gyda’r dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dyluniwyd strwythur y modiwl er mwy darparu adborth cyson drwy gydol y flwyddyn academaidd, a dylai hwn ddarparu myfyrwyr gyda’r cyfle i wella’u dysgu a’u perfformiad.
Rhifedd Heb ei dargedu’n benodol yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y traethawd yn datblygu a phrofi gallu myfyrwyr i weld sut gall syniadau a dadleuon o ddaearyddiaeth wleidyddol gael eu cyfosod i astudiaethau achos empeiraidd.
Sgiliau ymchwil Gofynna’r arholiad, traethawd, ac astudiaeth annibynnol i fyfyrwyr ymchwilio i astudiaethau achos yn annibynnol, ac mae hyn yn galw am gyfosod ystod o ddeunydd academaidd ac anacademaidd.
Technoleg Gwybodaeth Gofynna’r arholiad, traethawd, ac astudiaeth annibynnol i fyfyrwyr gyflawni ymchwil annibynnol o astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr ymestyn eu doniau ymchwil ac arfer eu medrau TG wrth ysgrifennu’r traethawd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5