Module Information

Cod y Modiwl
CYM5410
Teitl y Modiwl
Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol)
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 2 x Gweithdai 7 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio 2000 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 500 o eiriau  100%
Asesiad Ailsefyll Portffolio 2000 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 500 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o faes cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i Gymraeg, a hynny mewn meysydd arbenigol a phenodol.

Datblygu cywirdeb wrth gyfieithu ar wahanol themâu a phynciau.

Dangos dealltwriaeth ddyfnach o wahanol gyweiriau iaith a sut i’w rhoi ar waith yn briodol mewn cyfieithiadau.

Dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r hyn yw gweithio fel cyfieithydd proffesiynol yn y gweithle.

Dangos dealltwriaeth sylfaenol o natur a heriau cyfieithu ar y pryd a’r adnoddau sy’n angenrheidiol gyflawni’r gwaith hwnnw

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfieithu Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg myfyrwyr ymhellach drwy nifer o dasgau arbenigol, a chael cyfnod byr o brofiad gwaith er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o fyd gwaith y cyfieithydd proffesiynol.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, gosodir tasgau cyfieithu mewn meysydd arbenigol, megis cyfieithu deddfwriaethol a chyfieithu mewn sectorau eraill ble mae arbenigedd cyfieithu a therminolegau pwrpasol wedi eu datblygu. Yn ogystal, caiff y myfyrwyr ymdrin â thasgau prawfddarllen, golygu a gwirio gwaith eraill, a chyfle i drafod cyfieithiadau ei gilydd mewn tiwtorial. Bydd cyfle hefyd i fynd ar leoliad gwaith byr er mwyn dechrau deall heriau byd gwaith y cyfieithydd proffesiynol.

Cynnwys

i. Bydd 8 sesiwn awr o hyd (neu 4 sesiwn 2 awr), naill ai wyneb yn wyneb neu drwy rwydwaith fideo gyda chefnogaeth ar-lein yn trafod y tasgau a osodir ac yn rhoi adborth ar y gwaith.
ii. Lleoliad gwaith byr (2-3 diwrnod) gyda’r Consortiwm Cenedlaethol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, ar themâu arbenigol a phenodol, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y cyfnod yn y gweithle yn gofyn am gyfathrebu’n effeithiol â chyfieithwyr proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, er na fydd y gwaith hwn yn cael ei asesu’n ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa.
Datrys Problemau Bydd y darnau prawf cyfieithu yn profi gallu myfyrwyr i ddethol terminoleg briodol ac i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn effeithiol.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, ac yn trafod adborth ar eu gwaith. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn tîm yn y gweithle, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn gyson yn paratoi darnau cyfieithu unigol ac ar sail adborth acyn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn cael profiad o gyfieithu mewn gweithle proffesiynol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg ac i’r Saesneg ar themâu arbenigol a phenodol ac mewn amrediad o gyweiriau.
Sgiliau ymchwil Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio yn y tasgau bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau, ac i ddefnydd amrywiol o eirfa.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau digidol/electronig wrth baratoi’r cyfieithiadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7