Module Information
Cod y Modiwl
CY36000
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 3 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cynllun Ymchwil Manwl | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Estynedig | 80% |
Asesiad Semester | Cynllun Ymchwil Manwl Cynllun ymchwil manwl a llyfryddiaeth lawn (erbyn diwedd Semester 1) | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd Estynedig | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
cynllunio, cydlynu a chyflawni prosiect ymchwil gwreiddiol.
datblygu eu gallu i reoli amser yn effeithiol ac i weithio o fewn terfynau amser gosodedig.
arddangos dealltwriaeth feirniadol o’r ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol.
cynhyrchu darn o waith gorffenedig y mae ei dull a’i ddiwyg yn cydymfurfio â safonau academaidd addas.
dangos hunangymhelliad a’r gallu i astudio’n annibynnol.
Disgrifiad cryno
Y mae’r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr fynd i’r afael â phrosiect ymchwil annibynnol. Bydd y modiwl yn arfogi myfyrwyr â sgiliau ymchwil ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer paratoi, ymchwilio, a chynllunio traethawd estynedig 10,000 o eiriau. Bydd goruchwyliwr academaidd cymwys yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddiffinio eu pwnc a llunio’r traethawd gorffenedig.
Yn ystod Semester 1 bydd cyfres o ddarlithiau a gweithdai yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil. Bydd myfyrwyr yn diffinio eu pwnc mewn ymgynghoriad â goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun manwl o’r traethawd estynedig arfaethedig. Cynigir yr hyfforddiant canlynol: diffinio pwnc y traethawd, cynllunio ymchwil ac ysgrifennu traethawd estynedig. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl o’r traethawd arfaethedig ar ddiwedd Semester 1, ynghyd â llyfryddiaeth (1,500 o eiriau).
Yn ystod Semester 2 bydd myfyrwyr yn cydweithio â’u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol ac yn derbyn cefnogaeth academaidd ac ymarferol i gyflawni’r ymchwil ac i lunio’r traethawd gorffenedig.

Nod
Bwriad y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol ar fodiwlau’r Adran. Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol a hefyd yn cynnig canllawiau ar gyfer paratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig o waith yn y Gymraeg ar bwnc perthnasol i’w cynllun gradd.
Cynnwys
Semester 1
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda chydlynydd y modiwl er mwyn pennu goruchwylwyr addas (sesiwn 2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy 1: bydd myfyrwyr yn cyflwyno a thrafod eu syniadau (gweithdy 2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy 2: bydd myfyrwyr yn cyflwyno a thrafod eu syniadau (gweithdy 2 awr)
Semester 2:
Cyfarfodydd unigol gyda’r cyfarwyddwr yn ôl y galw (hyd at 5 awr)

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy lunio darn o waith estynedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil, y ffynonellau a’r heriau yn y gweithdai (gwaith grwp) ac yn y tiwtorialau (gwaith unigol). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Trafodir safbwyntiau a nodweddion personol wrth drafod y pwnc a datblygiad y traethawd gyda’r goruchwyliwr yn ystod y modiwl. Bydd y sgiliau generig a feithrinir yn ystod y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i’r gweithle. E.e. cynllunio a chyflawni darn o waith estynedig sy’n gynnyrch gwaith annibynnol. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau trwy trafod cwestiynau ymchwil, methodoleg addas, a chynllun ymchwil. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymateb i heriau a brofir yn ystod y broses o ymchwilio a dadansoddi. |
Gwaith Tim | amherthnasol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd disgwyl i fyfyrwyr fedru rheoli eu hamser yn effeithiol ac adrodd yn ôl ar eu cynnydd yn y tiwtorialau gyda goruchwylwyr. Bydd y tiwtorialau yn gyfle hefyd i fod yn hunanfeirniadol/hunanfyfyriol. |
Rhifedd | Gellid datblygu sgiliau rhifedd trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol, os yw’n addas i’r prosiect. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau myfyrwyr i adnabod a thrafod ieithwedd a chyd-destun hanesyddol a beirniadol eu pwnc; bydd gofyn i fyfyrwyr hefyd ffangos ymwybyddiaeth o gonfensiynau cyhoeddi’r ddisgyblaeth. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y sgiliau hyn trwy gasglu a dadansoddi deunydd sy’n addas i gwestiynau ymchwil y myfyrwyr. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol, e.e. defnyddio ffynonellau ar-lein, adnoddau digidol, PowerPoint, prosesu geiriau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6