Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2500 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd (2500 o eiriau) | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a ffeminyddol ehangach.
2. Adnabod y prif ddulliau llenyddol o bortreadu merched a ddefnyddid gan feirdd a llenorion Cymraeg yr Oesoedd Canol; gosod y dulliau hyn yn eu cyd-destun diwylliannol Cymreig ac Ewropeaidd.
3. Dangos dealltwriaeth o statws a swyddogaethau’r ferch yng Nghymru’r Oesoedd Canol.
4. Arddangos ymwybyddiaeth o natur a chyfyngiadau’r prif ffynonellau a ddefnyddir i archwilio’r maes.
5. Medru dadansoddi a thrafod yn feirniadol ddetholiad o destunau rhyddiaith a barddoniaeth, naill ai yn y gwreiddiol neu mewn cyfieithiad neu ddiweddariad.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno fframwaith beirniadol ffeminyddol, lle’r ferch yn y gymdeithas Gymreig ganoloesol, y safbwynt gwrywaidd (S. ‘the male gaze’) ac ymdrechion llenorion gwrywaidd i daflunio llais y ferch. Astudir detholiad o destunau gwreiddiol sy’n rhoi sylw i ferched a’r modd y portreadir hwynt yn y testunau hynny.
Cynnwys
Wythnos 1
Darlith & Seminar
• Cyflwyniad i fframwaith astudiaethau rhywedd a ffeminyddiaeth, sef y cyd-destun Ewropeaidd ac Engl-Americanaidd; rôl y beirniad ffeminyddol; lle’r modiwl hwn yn hanesyddiaeth y ddisgyblaeth; cyfiawnhau bodolaeth modiwl fel hwn fel rhan o’r ddadl dros brif-ffrydio astudiaethau rhywedd/ffeminyddiaeth.
Wythnos 2
2 Darlith
• Y cyd-destun hanesyddol: agweddau mytholegol, crefyddol, meddygol tuag at y ferch; statws a swyddogaeth y ferch, gan gynnwys gwisgoedd; y tyndra rhwng duwioldeb a rhywioldeb.
Wythnos 3
Darlith & Seminar
• Y cyd-destun hanesyddol (parhad)
Testunau penodol: taflunio lleisiau merched
Wythnos 4
2 x Darlith
• Y canu cynnar: ‘Pais Dinogad’ a llais y fam;
• ‘Canu Heledd’ a llais y ferch yn y canu englynol cynnar.
Wythnos 5
Seminar
• ‘Canu Heledd’
Darlith
• Pedeir Keinc y Mabinogi (PKM): merched a’r Mabinogi; rhywioldeb yn y Mabinogi;
Wythnos 6
Darlith & Seminar
• PKM: Rhiannon.
Wythnos 7
Darlith & Seminar
• PKM: Blodeuwedd a Branwen.
Wythnos 8
Darlith & Seminar
• Cerddi’r Gogynfeirdd i fenywod: ‘Gorhoffedd’ Hywel ab Owain Gwynedd; ‘Rhieingerdd Efa’ Cynddelw Brydydd Mawr.
Wythnos 9
Darlith & Seminar
• Merched Dafydd ap Gwilym: Morfudd, Dyddgu ac eraill.
Wythnos 10
Darlith & Seminar
• Merched a chanu serch yr Oesoedd Canol: y ferch ddelfrydol?
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniad ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r fframwaith beirniadol, y cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae’r aseiniadau ar gyfer y modiwl hwn yn asesu gwaith y myfyrwyr yn ffurfiannol. Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy gymhwyso theori ffeminyddol i destunau hanesyddol. Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir. |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6