Module Information
Module Identifier
CT34920
Module Title
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Other Staff
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminar | 6 x Seminarau 1 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours | 50% |
Semester Assessment | Traethawd (2500 gair) | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2500 gair) | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rheolau cyfreithiol sy’n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedau.
2. Cyflwyno’r myfyrwyr i sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
3. Dysgu i ddatblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth.
4. Dadansoddi problemau cymhleth yng nghyfraith ecwiti ac ymddiriedau yn feirniadol, cymwyso’r egwyddorion cyfreithiol a astudiwyd i’r problemau hynny, gan gloriannu dadleuon neu ddatrysiadau eraill.
Brief description
Rhaid i fyfyrwyr astudio Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedau i gael eu hesgusodi o arholiadau Rhan 1 Cymdeithas y Gyfraith a’r Bar. Sefydlir Ymddiriedolaethau am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchnogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i
ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ol cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'n ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.
ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ol cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'n ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.
Content
1(a). Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau
2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedaeth
Cymhwystra
gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau
bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau
natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo
3. Etifeddiant
4. Ymddiriedau Elusennol
5. Cymdeithasau Anghorfforedig
6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr
Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr
7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau
2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedaeth
Cymhwystra
gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau
bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau
natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo
3. Etifeddiant
4. Ymddiriedau Elusennol
5. Cymdeithasau Anghorfforedig
6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr
Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr
7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Amherthnasol |
Communication | Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar fel unigolion ac fel grwp. |
Improving own Learning and Performance | Bydd cymryd rhan mewn seminarau, ymarferion datrys problemau yn y dosbarth a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ddatblygu academaidd personol, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a thrwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad. |
Personal Development and Career planning | Mae hwn yn fodiwl gorfodol i unrhyw un sy’n astudio tuag at radd gymwysedig yn y Gyfraith. |
Problem solving | Trafodaeth seminar/darlithoedd ymarfer datrys problemau. |
Research skills | Caiff y sgiliau hyn eu datblygu wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad. |
Subject Specific Skills | Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ymddiriedau yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd. |
Team work | Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau. |
Notes
This module is at CQFW Level 6