Module Information

Module Identifier
CT33020
Module Title
Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Co-Requisite
CR30910 or LA33310 , neu CT32220
Exclusive (Any Acad Year)
Mutually Exclusive
Pre-Requisite
CT22220 or LC22220 TR/CR12430 or GF/LA39220
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Semester Assessment Asesiad Naratif Myfyriol  (2,500 o eiriau)  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  (Ailsefyll yr elfen a fethwyd)  50%
Supplementary Assessment Asesiad Naratif Myfyriol  (2,500 o eiriau) - Ailsefyll yr elfen a fethwyd  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth feirniadol gadarn o effaith newid cymdeithasol ar faterion sy’n ymwneud a throsedd, rheoli trosedd a chosb.

2. Dangos adnabyddiaeth a dealltwriaeth am faterion hanesyddol a chymharol yn natblygiad polisïau, prosesau a sefydliadau cyfiawnder troseddol.

3. Asesu gwerth ymagweddau hanesyddiaethol wrth ddatblygu dealltwriaeth o faterion cyfoes sy’n ymwneud â throsedd a chyfiawnder troseddol.

4. Adnabod ac egluro gwahanol ffyrdd y trawsnewidiwyd systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli’r effaith a gafodd y trawsnewidiadau hyn ar bolisïau, arferion a dadleuon cyfoes.

5. Adnabod ac ystyried yn feirniadol gyfyngiadau’r ffynonellau cynradd sydd ar gael ac sy’n ymwneud â’r gwahanol gyfnodau hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.

6. Dangos gwybodaeth gadarn o’r egwyddorion sy’n sail i ymagweddau cyfiawnder troseddol yn ystod pob un o’r cyfnod hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.

Brief description

Nid yw’r modiwl hwn yn ceisio darparu disgrifiad cynhwysfawr o ddatblygiadau yn y drefn cyfraith trosedd neu’r drefn gosbi. Mae’n ceisio yn hytrach fynd i’r afael ag ystod o gwestiynau sy’n parhau’n berthnasol ar draws amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol: Pa fathau o ymddygiad sy’n cael eu hystyried yn droseddol, a pham? Pa ddulliau cosb a ystyrir yn briodol, a pham? Pa ffactorau sy’n achosi newid i’r dulliau cosb? Sut mae buddiannau dioddefwr y drosedd a buddiannau’r gymuned ehangach yn cael eu cysoni? Bydd cwestiynau eraill yn codi a fydd yn hysbysu ein gallu i ateb y cwestiynau hyn: Sut y gwyddwn faint o droseddu a gafwyd yn y gorffennol? Sut y gwyddwn beth oedd barn pobl amdano? Ymhle gallwn chwilio am wybodaeth a beth yw cyfyngiadau’r wybodaeth honno?

Caiff myfyrwyr gyfle i astudio amrywiaeth o safbwyntiau hanesyddol ar drosedd a chosb. Anogir myfyrwyr i ddatblygu gwell ymwybyddiaeth o barhad ac amrywiadau systemau cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag ymatebion eraill y gymdeithas i droseddu a newidiadau cymdeithasol.

Content

Bydd cyfres y darlithoedd a’r seminarau yn ymchwilio i amrywiaeth o themâu a phynciau troseddegol, cyfiawnder troseddol a hanesyddiaethol drwy lygaid cyfres o gyfnodau hanesyddol:

Trosedd a Chosb yn yr Henfyd
Trosedd a Chosb yn yr Oesoedd Canol
Trosedd a Chosb yn y Cyfnod Modern Cynnar
Trosedd a Chosb yn Oes Fictoria

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Trwy ddadansoddi canfyddiadau ymchwil yn feirniadol bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o sut mae theori ac ymarfer yn uno mewn sefyllfa hanesyddol.
Communication Anogir cyfathrebu llafar mewn trafodaethau seminar, gwaith grwp a wneir yn y gyfres seminarau, ac yn ystod yr ymarfer gwaith maes. Datblygir ac asesu cyfathrebu ysgrifenedig yn y gwaith cwrs
Improving own Learning and Performance Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog meddwl beirniadol ac ochrol myfyrwyr. Bydd y tasgau a’r ymarferion a osodir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’r defnydd ohonynt mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ar ddysgu ac addysgu cynnwys y modiwl fesul cam.
Information Technology Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion electronig ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard.
Personal Development and Career planning Bydd astudio’n annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu annibyniaeth yn nysgu’r myfyriwr. Bydd gwaith grwp yn arfogi’r myfyrwyr a sgiliau cyfathrebu i ymgysylltu ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi a’r ymgysylltu angenrheidiol a’r cwrs ar gyfer yr aseiniad myfyriol yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar ac i gymryd rhan weithredol yn y tasgau.
Problem solving Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ystyried ystod eang o bynciau hanesyddol sy’n ymwneud a throsedd, cosb a phrosesau cyfiawnder troseddol.
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil drwy gael mynediad at, a dadansoddi llenyddiaeth ar drosedd a chosb er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau myfyriol a hefyd yn cael eu hannog yn weithredol i feddwl yn feirniadol am berthnasedd tueddiadau hanesyddol mewn trosedd a chosb i’r gymdeithas fodern a phrosesau cyfiawnder troseddol.
Team work Bydd gwaith mewn grwpiau bychain yn y seminarau yn meithrin gwaith tim ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid. Bydd y gweithgareddau gwaith maes yn datblygu ymhellach allu myfyrwyr i gydweithio.

Notes

This module is at CQFW Level 6