Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminar | 3 x Seminarau 2 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours (Arholiad nas gwelir ymlaen llaw) | 50% |
Semester Assessment | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours (Arholiad nas gwelir ymlaen llaw) | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth gadarn o’r prif ddamcaniaethau, persbectifau a chysyniadau’n ymwneud â phlismona.
2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
3. Cymhwyso damcaniaethau troseddegol, seicolegol a chymdeithasegol i arferion plismona cyfredol.
4. Nodi ac egluro’r gwahanol ffyrdd y mae plismona wedi cael ei drawsffurfio yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli sut y mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar bolisïau, arferion a thrafodaethau.
5. Esbonio a dadansoddi’n feirniadol sut y mae prosesau ‘lluosoli’ a ‘globaleiddio’ wedi effeithio ar wahanol randdeiliaid a rhannau penodol o’r cyhoedd.
6. Dangos gwybodaeth drylwyr am gysyniadau plismona lluosol a llywodraethu diogelwch o safbwynt cyfreithiol-gymdeithasol.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o rôl a swyddogaethau’r heddlu a ffurfiau eraill o blismona. Mae’n cyflwyno’r myfyrwyr i gysyniadau ehangach ‘llywodraethu diogelwch’ a ‘plismona lluosol’ o safbwyntiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Trwy archwilio’r berthynas rhwng yr Heddlu a phlismona, mae’r modiwl yn egluro newidiadau hanesyddol allweddol a weddnewidiodd blismona, ac effaith a chanlyniadau’r newidiadau hynny i’r gymdeithas gyfoes. Mae ffocws rhyngddisgyblaethol y modiwl yn ystyried y themâu hyn o safbwyntiau troseddegol, cyfreithiol, seicolegol, a chymdeithasegol.
Content
Modelau a Swyddogaethau
Llywodraethu/ Atebolrwydd
Dilysrwydd
Plismona Democrataidd
2. Cymdeithaseg yr Heddlu
Diwylliant yr Heddlu
Disgresiwn
Allgau Cymdeithasol
3. Plismona Lluosol
Plismona Cymunedol
Partneriaethau
Plismona Preifat
Plismona wedi’i ymgorffori
4. Plismona mewn Cyd-destun Byd-eang
Plismona Cymharol
Plismona Trawswladol
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Trwy ddadansoddi’n feirniadol ganfyddiadau ymchwil bydd y myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o’r ffordd y mae damcaniaethau ac ymarfer yn cyfuno yng nghyd-destun yr heddlu. |
Communication | Anogir cyfathrebu ar lafar yn ystod trafodaethau mewn seminarau rhyngweithiol ac mewn gwaith grŵp a wneir yn y gyfres o seminarau. Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei ddatblygu a’i asesu yn y gwaith cwrs. |
Improving own Learning and Performance | Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol. Bydd tasgau ac ymarferion a bennir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’u cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ynghylch dysgu ac addysgu cynnwys y modiwl mewn modd blaengar. |
Information Technology | ydd chwilio cronfeydd data electronig a chyfnodolion ar-lein yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard. |
Personal Development and Career planning | Bydd astudio annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu gallu’r myfyrwyr i reoli eu dysgu eu hunain. Bydd gwaith grŵp yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau cyfathrebu i gydweithio ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi sydd ei angen ar gyfer aseiniad y traethawd yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar a chymryd rhan weithredol yn y tasgau. |
Problem solving | Bydd gofyn i fyfyrwyr ystyried amrywiaeth eang o faterion sy’n codi mewn perthynas â’r heddlu, plismona, llywodraethu a rheolaeth gymdeithasol. Bydd hyn yn gwella ac yn datblygu sgiliau datrys problemau a dadansoddi beirniadol. |
Research skills | Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddefnyddio a dadansoddi testunau ar themâu’n ymwneud â phlismona er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir. |
Subject Specific Skills | Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau adfyfyriol a byddant hefyd yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol ynglŷn â’r modd y cymhwysir polisïau’r heddlu i ymarfer yr heddlu. |
Team work | Bydd gwaith mewn grwpiau bach yn y seminarau yn meithrin gwaith tîm ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng y myfyrwyr a’r tiwtoriaid. |
Notes
This module is at CQFW Level 6