Module Information

Cod y Modiwl
CT30100
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig Empeiraidd Troseddeg
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
CT25120 neu CR31420 , or LC25120

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd estynedig  10,000-12,000 gair  85%
Asesiad Semester Cyflwyniad yng nghynhadledd y myfyrwyr  15 munud  15%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig  10,000-12,000 gair  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cynllunio cwestiwn ymchwil y gellir ei brofi drwy brosiect empeiraidd

Dangos gallu i osod y cwestiwn hwnnw o fewn cyd-destun damcaniaethol

Dangos gallu i gynnal arolwg effeithiol o’r maes

Dangos gallu i ddewis a chynllunio’r fethodoleg fydd yn taflu goleuni ar y cwestiwn/cwestiynau ymchwil orau

Nodi a thrafod y problemau methodolegol cyffredin

Casglu data

Dadansoddi a gwerthuso data ymchwil yn feirniadol

Dangos gallu i ddehongli canfyddiadau

Dod i gasgliadau sy’n seiliedig ar y canfyddiadau

Sicrhau bod y data’n cefnogi’r casgliadau yn glir

Gosod canfyddiadau yng nghyd-destun ehangach damcaniaeth a pholisi

Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.

Adolygu corff cydlynol o wybodaeth yn feirniadol a’i gyflwyno i gynulleidfa

Disgrifiad cryno

Rhesymeg academaidd y cynnig: Mae’n bwysig annog myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir ym mlwyddyn gyntaf y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg trwy ganiatáu iddynt gynnal eu hymchwil empeiraidd eu hunain. Mae’r modiwl hwn yn caniatáu iddynt ddysgu i adnabod cwestiwn/cwestiynau ymchwil y gellir eu profi trwy brosiect empeiraidd a’u gosod o fewn damcaniaethau ehangach.

Disgrifiad Cryno: Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gynllunio, cyflawni ac ysgrifennu prosiect ymchwil empeiraidd manwl ym maes Troseddeg.

Cynnwys: Bydd y myfyrwyr yn dewis y pwnc ymchwil mewn ymgynghoriad â’r staff.

Cynnwys

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf traethawd estynedig ac asesir eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy’r cyflwyniadau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r traethawd estynedig empeiraidd yn ffordd dda o ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer eu cyflogaeth a/neu yrfaoedd ôl-raddedig yn y dyfodol.
Datrys Problemau Canfod data ac adnoddau
Gwaith Tim Yn ystod y seminarau gall myfyrwyr gydweithio ar bwnc penodol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir y myfyrwyr i ymarfer a phrofi eu dysgu eu hunain a’u gallu i ddefnyddio a rhyngweithio â’r deunyddiau trwy ddysgu rhagweithiol yn y sesiynau
Rhifedd Disgwylir i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi data
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau ymchwil yn cynnwys: chwilio cronfeydd data, dulliau casglu, dadansoddi ac ysgrifennu
Sgiliau ymchwil Mae troseddeg o reidrwydd yn gofyn am ddull rhyngddisgyblaethol o weithio, felly bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau ymchwil mewn nifer o feysydd pwnc gwahanol. Byddant yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu sgiliau ymchwil yn y meysydd hyn. Fe'u hanogir i ddarllen yn eang ac i ddod o hyd i ddeunyddiau yn y llyfrgell ac ar-lein
Technoleg Gwybodaeth Wrth baratoi ar gyfer yr aseiniadau bydd gofyn i’r myfyrwyr ddefnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig a meddalwedd eraill.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6