Module Information

Cod y Modiwl
CT20120
Teitl y Modiwl
Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 3 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Asesiad Semester Traethawd Ysgrifenedig  (2500 gair)  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Ysgrifenedig  (2500 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. ​Dangos dealltwriaeth dda o’r system gyfreithiol a’r system cyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithio rhwng y ddwy.

2. Bod yn gyfarwydd a ffynonellau’r gyfraith a sut i ganfod ac adnabod ffynonellau o’r fath.

3. Bod yn gyfarwydd a gweithdrefnau’r llys ac achosion llys.

4. Gallu dadansoddi a chloriannu agweddau ar y System Gyfreithiol a’r System Cyfiawnder Troseddol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn ymgorffori holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cynnig trosolwg o’r system cyfiawnder troseddol. Bydd y ddau bwnc yn cael eu hintegreiddio i fodiwl sy’n cyflwyno’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio a’i gilydd.

Cynnwys

Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.

Bydd myfyrwyr yn ystyried y pethau canlynol mewn perthynas a’r system gyfreithiol, strwythur y llysoedd a hierarchaeth y llys a sut y mae hyn yn berthnasol i gyfraith achosion ac athrawiaeth cynsail. Astudir deddfwriaeth ac egwyddor dehongli statudol, yn ogystal â sut y mae’r Senedd yn deddfu. Proffesiwn y gyfraith, gan gynnwys y farnwriaeth, bargyfreithwyr a chyfreithwyr ac ynadon; rheithgor; systemau gwrthwynebus/ymchwiliol; ADR (Alternative Dispute Resolution); bydd tribiwnlysoedd yn ganolbwynt i’r astudiaethau o fewn elfen y system gyfreithiol. O ran y system cyfiawnder troseddol, ystyrir disgresiwn a phwerau’r heddlu ac effaith PACE. Bydd gweithgor y treial/ystafell llys yn cael ei astudio a’i gysylltu a’i swyddogaeth o fewn y system gyfreithiol. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dedfrydu, gan gynnwys dedfrydau o garchar/di-garchar a rheolau/gweithdrefnau carchar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Seminarau rhyngweithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn cael cyngor am y gwahanol gyfleoedd y mae graddau yn y gyfraith/troseddeg yn eu cynnig.
Datrys Problemau Seminarau rhyngweithiol.
Gwaith Tim Seminarau rhyngweithiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio a pharatoi ar gyfer seminarau.
Sgiliau pwnc penodol Deall dulliau cyfreithiol.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio i gronfeydd data ar y gyfraith.
Technoleg Gwybodaeth Systemau TG a chronfeydd data cyfreithiol sy’n hanfodol ar gyfer astudio a gwaith ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5