Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 1 x Gweithdy 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad. Wedi ei ysgrifennu mewn arddull cylchgrawn gwyddonol poblogaidd. | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Disgrifio'r broses ecolegol sy'n digwydd mewn systemau amaethyddol.
Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.
Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.
Gwerthuso effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.
Trafod y cysyniad o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen i ddeall yr agweddau ecolegol cymwysedig ar systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl yma yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Mae'r modiwl wedi'i lunio i dynnu sylw at faterion sy'n ymwneud a'r gadwyn fwyd ddynol gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaladwyedd, effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol a dyframaethyddol, datblygu polisi amaethyddol, pryder y cyhoedd am gynhyrchu bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a'r galwadau gan gwsmeriaid a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.
Cynnwys
Globaleiddio systemau amaethyddol a cynhyrchu bwyd
Tueddiadau mewn traul bwyd a'r effeithiau ar iechyd dynol
Diogelwch bwyd, olrheiniadwyedd a sicrwydd fferm
Systemau amaethyddol a'r amgylchedd: Ddoe a heddiw
Dylanwad polisiau a gwleidyddiaeth ar amaethyddiaeth a'r amgylchedd
Rheoli organebau a chynefinoedd o fewn yr amgylchedd amaethyddol
Effeithiau dwysau amaethyddiaeth ar yr amgylchedd
Pwysigrwydd cynefinoedd terfyn a chysylltedd tirwedd o fewn yr amgylchedd amaethyddol
Datblygu systemau amaethyddol aml-rywogaeth
Rheolaeth Cnwd Integredig a datblygiadau mewn systemau amaethyddol
Biotechnoleg yn ein caeau ac ar ein platiau?
Bwyd neu danwydd o'r cae?
Sut y mae creu systemau amaethyddol cynaliadwy?
Y defnydd o Gynlluniau Cadwraeth Fferm Gyfan
Rôl cynlluniau Amaeth-Amgylcheddol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen mewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol |
Technoleg Gwybodaeth | Canfod gwybodaeth ar y Rhyngrwyd Cael gafael ar wybodaeth trwy gyfrwng system lyfrgell ar-lein. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5