Module Information

Cod y Modiwl
AD19220
Teitl y Modiwl
Datblygiad Plant
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
Seminar 9 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  (1,500 o eiriau)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (48 hour written take home exam)  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (48 hour written take home exam).  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (1,500 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pwnc, gan gynnwys cysyniadau a methodolegau arbenigol.

Gwerthuso'n feirniadol gysyniadau a damcaniaethau datblygiad plant.

Llunio dadleuon rhesymegol wrth drafod materion yn ymwneud a datblygiad plant.

Dangos defnydd cymwys o ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno i'r myfyrwyr ddulliau astudio plant, arferion gofal plant a seicoleg datblygiad Piaget. Drwy hynny, mae'n archwilio datblygiad deallusrwydd, personoliaeth a chanfyddiad plant.

Cynnwys

Mae'r darlithoedd yn seiliedig ar y pynciau isod:

1. Cyflwyniad - Beth yw Seicoleg?
2. Natur ynteu Magwraeth?
3. Canfyddiad Gweledol a Sain
4. Damcaniaeth Datblygiad Gwybyddol Piaget
5. Mwy ar Piaget a rhai dewisiadau eraill
6. Natur Deallusrwydd
7. Profi Deallusrwydd
8. Ffurfio Personoliaeth
9. Ymlyniad ac Arferion Rhianta
10. Gwahaniaethau Diwylliannol ac Ymlyniad

Mae'r seminarau'n seiliedig ar y pynciau isod:

1. Adolygu Sgiliau Astudio a Chasglu Data (ac yna asesu adolygiad llenyddiaeth)
2. Safbwyntiau Plentyndod
3. Natur/Magwraeth (ac yna adroddiadau)
4. Piaget
5. Cyflwyniadau 1 ar y pynciau uchod
6. Ewgeneg
7. Profi Deallusrwydd
8. Arferion Gofal Plant
9. Gwahaniaethau Diwylliannol ac Ymlyniad
10. Cyflwyniadau 2 ar y pynciau uchod

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu'n elfen allweddol drwy gydol y darlithoedd a'r seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau'r seminarau. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol yr asesiadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid ydynt yn cael eu datblygu yn y modiwl hwn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o'r broses asesu beirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau'r seminarau'n cynnig nifer o gyfleoedd i wneud gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a dadleuon.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gweithgareddau'r seminarau ac adborth ar waith a asesir.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Chwiliadau llyfryddiaethol.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i wneud eu haseiniadau ar brosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4