Module Information

Cod y Modiwl
YF11210
Teitl y Modiwl
Barddoniaeth yr ugeinfed ganrif
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Blog  Llunio blog sy’n cynnwys tri gwerthfawrogiad o gerddi unigol (500-600 gair)  50%
Asesiad Semester Traethawd 1500 gair  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Bod yn gyfarwydd â rhai o brif gerddi’r Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif

Dehongli a gwerthfawrogi cerddi yn feirniadol

Deall cyd-destunau testunau llenyddol

Deall rhai o brif fudiadau barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif

Bod yn gyfarwydd â rhai o brif weithiau beirniadol ac ysgolheigaidd y maes

Disgrifiad cryno

Cyflwynir gweithiau prif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Gwneir hyn drwy gyfres o gyflwyniadau a sgyrsiau gan dynnu sylw at gyd-destunau llenyddol, diwylliannol, cymdeithasegol a hanesyddol i’r testunau, a chan drafod eu harwyddocâd.

Nod

• Cynnig brasolwg ar farddoniaeth yr ugeinfed ganrif
• Cyflwyniad i brif fudiadau barddol yr ugeinfed ganrif
• Cyflwyniad i gyd-destunau diwylliannol, cymdeithasegol a hanesyddol testunau llenyddol
• Paratoi myfyrwyr ar gyfer testunau llenyddol Cymraeg eraill

Cynnwys

Cyflwyniadau ar ffurf fideo/mp3/pdf
1. Y Dadeni Llenyddol
2. Y Chwalfa Fawr a Moderniaeth
3. Canu Penyberth: Protest ar Gân
4. Ffydd a Chrefydd
5. Y Canu Tywyll? Arbrofi trwy Ddelwedd a Ffurf
6. Poblogeiddio Barddoniaeth
7. Y Dadeni Cynganeddol
8. Lleisiau Telynegol
9. Gwrthsefyll y Batriarchaeth
10. Traddodiad a Dwyieithrwydd
11. Ailgydio yn yr Awenau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4