Module Information

Cod y Modiwl
TR30120
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
CR12130 and CR12430
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 6 x Darlithoedd 1 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd Estynedig  8000-10000 o eiriau. Os bydd myfyriwr yn methu’r asesiad ac yn dymuno ailgyflwyno, rhaid cyflwyno traethawd ar bwnc sydd yr un yn ei hanfod ag y cyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth gan y cyfarwyddwr gwreiddiol, neu oni bydd hynny’n bosibl, gan gydgysylltydd y modiwl. Ni ddarperir rhagor o oruchwyliaeth. Nid oes angen cyflwyno cynllun ymchwil pellach nac adroddiad. Gall myfyrwyr fynychu darlithoedd ar y traethawd  100%
Asesiad Semester Traethawd Estynedig  8000-10000 o eiriau i’w cyflwyno ar ddiwedd semester 2. Gofynnir i adroddiad ymchwil gael ei gyflwyno yn wythnos 8 y semester perthnasol. Gall methu cyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol. Cyflwyno Poster yn ystod y gweithdy yn semester 2. Gall methu mynychu’r gweithdy olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.   100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Ennill y sgiliau angenrheidiol er mwyn ymchwilio i faes troseddeg o ddewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil mewn modd clir, trefnus a dealladwy er mwyn hyrwyddo’r wybodaeth a’r syniadau a gyflwynir yn y gwaith ymchwil.
2. Cymhwyso’r sgiliau a enillwyd yn y modiwlau Sgiliau Ymchwil at eu dewis faes troseddeg neu seicoleg gymhwysol.
Gellir crynhoi canlyniadau hyfforddiant y modiwl hwn fel a ganlyn:
(a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo;
(b) adolygu, gwerthuso a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gasglwyd a’r pynciau a nodwyd
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd;
(d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi trefn ar ddeunydd er mwyn cyflwyno’r ddadl a’r data yn effeithiol;
(e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8000-10000 o eiriau.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwilio troseddegol parhaus ac ysgrifennu am bwnc arbennig yn hytrach nag wedi ei seilio ar gwrs astudio sydd wedi’i bennu. Y myfyriwr, gyda chymeradwyaeth yr Adran, fydd yn dewis pwnc i ymchwilio iddo’n fanwl ac yn symud ymlaen i’r camau ymchwilio ac ysgrifennu dan gyfarwyddyd aelod staff sy’n gyfarwydd â’r maes y mae pwnc y traethawd yn perthyn iddo. Bydd yr ymarfer cyffredinol o ymchwilio ac ysgrifennu’r traethawd yn adeiladu ar wybodaeth o, a hyfforddiant wrth ddefnyddio, adnoddau’r llyfrgell a ddarperir yn y modiwlau Darlleniadau mewn Troseddeg / Darlleniadau mewn Seicoleg ac Elfennau o Droseddeg. Mae’n adeiladu hefyd ar yr hyfforddiant yn y modiwlau Darlleniadau mewn Troseddeg/Seicoleg a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf ac yn gwneud defnydd ymarferol o’r gallu i ddeall methodolegau gwyddor gymdeithasol fel a ddysgir yn y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg. Mae gwaith ymchwil llwyddiannus yn rhagdybio’r gallu i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau llyfrgell ac i olrhain ffynonellau trwy gronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Bydd y goruchwyliwr a bennir yn darparu cyfarwyddyd trwy gyfres o gyfarfodydd lle bydd y myfyriwr yn adrodd ar ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arno/arnynt. Rôl y goruchwyliwr yw cynghori ynghylch methodoleg ymchwil a chyflwyno’r ymchwil yn y traethawd ei hun.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig â’r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr, yn ogystal â chyflwyno poster sy’n ofynnol yn y gweithdy yn ystod semester 2. Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio dros ddau semester, a chyflwyno.
Datrys Problemau Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddefnyddiwyd eisoes.
Gwaith Tim Cynhelir nifer o gyfarfodydydd lle gall myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Rhifedd Bydd rhai o’r testunau yn cynnwys dadansoddi ystadegol cymhleth i’w ddeall a’i gloriannu.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o ddau semester; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8000 – 10000 o eiriau.
Technoleg Gwybodaeth Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6