Module Information

Cod y Modiwl
TC33300
Teitl y Modiwl
Ymarfer Creadigol Annibynnol (Cyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Y modiwlau cynhyrchu annibynnol yn Saesneg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 20 x Gweithdai 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio Creadigol  40%
Asesiad Semester Prosiect Terfynol a Thraethawd Atblygol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Creadigol  40%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Terfynol Unigol a Thraethawd Atblygol (3000)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dyfeisio a chynllunio prosiect cynhyrchu cyfryngol mewn cyd-destun annibynnol.

2. Ystyried eu gwaith creadigol o fewn cyd-destun beirniadol ac atblygol.

3. Arddangos meistrolaeth o sgiliau cynhyrchu penodol ynghyd a dealltwriaeth o'r berthynas rhyngddynt.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwr ddatblygu prosiectau cynhyrchu creadigol gan adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a'u cymhwyso i gyd-destun o weithio yn annibynnol. Gall myfyrwyr ganolbwyntio ar um neu fwy o agweddau ar gynnyrch cyfryngol e.e. sgript lawn, ffilm fer, prosiect amlgyfryngol neu amrywiad ar yr elfennau hynny. Bydd hunanwerthusiad a beirniadaeth atblygol yn gwreiddiol i'r modiwl hwn.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn fe fydd myfyrwyr yn gweithio'n annibynnol i greu cynhyrchiad cyfryngol o'u dewis o blith y canlynol: ffilm fer Ffuglen neu Dogfen (tua 10 munud o hyd). Dysgir y modiwl mewn gweithdai ble disgwylir i fyfyrwyr dafoli eu gwaith o fewn cyd-destun academaidd a chreadigol ehangach. Ceir sesiynau penodol gydag arbenigwyr o'r diwydiannau creadigol yn ogystal a staff yr Adran.

Cynnwys

Sesynau dysgu:
10 x gweithdy 3 awr - semester 1
10 x gweithdy 3 awr - semester 2

Dysgir y modiwl hwn mewn cyfres o weithdai a darlithoedd fel a ganlyn:

Darlithoedd/Seminarau:

1. Dyfeisio a Chynllunio Prosiect Cynhyrchu Creadigol.
2. Lleoli Gwaith Cradigol o fewn Traddodiad Critigol ac Atblygol.
3. Cyflwyno a Datblygu Syniadau.
4. Cyflwyno Gwaith Portffolio ac Adolygu Syniadau
5. Cyflwyno Drafft Cyntaf Prosiect Terfynol.

Gweithdai Cynhyrchu (mewnol a gydag arbenigwyr allanol): hyd at 10 x 2 awr i gynnwys ystyriaethau megis:

Triniaeth, genre ac arddull, cynulleidfa, cydymffurfiaeth a materion cyfreithiol, deunydd archif, cydgyfeirirant a chynnyrch aml-blatfform, cyfarwyddo, sain, golygu ac olgynhyrchu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd gweithio'n annibynnol yn sgil a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr i ystyried o ddifrif eu cynlluniau gyrfaol yn enwedig wrth iddynt ymwneud ag aelodau o'r diwydiant yn eu dewis feysydd arbenigol.
Datrys Problemau Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol.
Gwaith Tim Gall prosiect terfynol y myfyrwyr fod yn waith unigol os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at feirniadaeth atblygol o waith ei gilydd hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o'r un prosiect terfynol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir medrau ymchwil penodol wrth ddyfeisio ac ymchwilio i'r prosiect cynhyrchu annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6