Module Information

Cod y Modiwl
MT12910
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Gofynion mynediad ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd Mathemateg a Ffiseg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 7 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr
Tiwtorial 3 x Tiwtorial 1 Awr
Darlith 16 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad Rhaglennu  Aseiniad Rhaglennu (22%), Aseiniad Cyflwyniad Gweledol (22%), Aseiniad Ystadegaeth (22%), Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a Curriculum Vitae (12%), Cyflwyniad Grwp (11%), Cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg (11%)  25%
Asesiad Semester Aseiniad taenlen  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad unigol ar destun mewn Mathemateg  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad grwp ar yrfaoedd  15%
Asesiad Semester Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a Curriculum Vitae  Arholiad ymarferol ar daenlenni ac ystadegaeth   15%
Asesiad Ailsefyll Ar benderfyniad y Bwrdd Arholi  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gosod, neu addasu, taenlen i wneud amrywiaeth o gyfrifiadau a chynhyrchu crynodebau, arddangos y data a chanlyniadau.

Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadur i ddatrys problemau mathemateg ac arddangos graffiau.

Defnyddio pecynnau meddalwedd i gynhyrchu dogfennau syml fel Curriculum Vitae, cyflwyniad neu boster.

Gweithio mewn grwpiau i ymchwilio a chyflwyno gwybodaeth am yrfaoedd Mathemateg.

Gweithio'n unigol i ymchwilio a chyflwyno pwnc mewn Mathemateg.

Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiad i gyflogwr.

Nod

Mae'r modiwl yn cynnig cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trowglwyddadwy wedi'u cynllunio i wella profiad dysgu a chyflogadwyaeth myfyrwyr.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno rhaglennu cyfrifiadurol trwy ystod o becynnau meddalwedd: pecyn prosesu geiriau, pecyn cyflwyniad, pecyn taenlen a rhaglenni ffurfiol. Bydd yn defnyddio cysyniadau syml mewn mathemateg i arddangos defnydd syml o feddalwedd a sgiliau yn y gweithle.
Fel rhan o'r modiwl mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau ble bydd pob myfyriwr yn paratoi Llythyr Cyflwyno a Curriculum Vitae. Drwy weithio mewn timau bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion eu disgyblaeth ac i'r defnydd o'r sgiliau a ddatblygir yn eu cyrsiau ar gyfer y gyrfaoedd yma. Bydd y timau yn rhoi cyflwyniad grwp ar sail eu hymchwiliad gan ddefnyddio'r pecyn cyflwyniad.

Bydd y myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr unigol ar destun mewn Mathemateg.

Cynnwys

Pecyn prosesu geiriau (Word, Powerpoint, Latex): cyflwyniad, dogfen syml, fformatio, mynegiadau mathemategol, sgiliau cyflwyno.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi CV, wedi'i redeg gan y Gwasanaeth Cynghori Gyrfaoedd.
Cyflwyniadau grwp ar y berthynas rhwng sgiliau a feddianir gan Fathemategwyr a'r gyrfaoedd posib iddynt.
Taenlenni: trosolwg o daenlenni, rhoi gwybodaeth i mewn a'i fformatio, fformwlau a ffwythiannau, ymdrin a delweddu set mawr o data.
Rhaglenni: cyflwyniad sylfaenol i feddalwedd ac egwyddorion rhaglenni cyfrfiadurol gyda delweddu gweledol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r CV a'r aseiniadau ysgrifenedig. Datblygir cyfathrebu ar lafar drwy'r cyflwyniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a'r cyflwyniad grwp a yn darparu cyfleoedd i gynllunio ar gyfer gyrfa.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau yn y modiwl drwy aseiniadau taenlen ac aseiniadau rhaglenni ac wrth baratoi cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg.
Gwaith Tim Mewn grwpiau y gwneir y gwaith sy'n arwain at y cyflwyniad grwp.
Rhifedd Caiff cysyniadau a thechnegau rhifyddol eu hystyried yng nghyd-destun y pecynnau taenlen ac ystadegaeth.
Sgiliau ymchwil Caiff sgiliau ymchwil eu datblygu wrth ymchwilio i destun y cyflwyniad ac ymchwilio i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiol fathau o gyflogaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn defnyddio amrywiaeth o becynnau cyfrifiadur.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4