Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno elfennau methu | |
Asesiad Semester | Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect ymchwil. Gellir gwneud hyn ar-lein. Bydd angen i'r cynllun fod yn addas ar gyfer y prosiect ymchwil a chael ei gymeradwyo gan yr arolygydd. | 30% |
Asesiad Semester | Ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau yn y gweithdy. Bydd yr ymarferion yn trafod a) adnabod achosion o lenladrata, b) pa faterion moesegol all ymddangos mewn ymchwil, a c) yr hyn a ddylid ei wneud gyda data. Bydd yr ymarferion yn cael eu cwblhau mewn amgylchedd grwp bach a byddant yn cael eu hasesu gan gyfoedion (darperir meini prawf asesu priodol). | 30% |
Asesiad Semester | Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein ar gyfer eu prosiect ymchwil yn llwyddiannus. Golyga hyn bod y person priodol yn eu Hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil) wedi ei gymeradwyo. | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. deall ac asesu llenladrata yn eu gwaith ysgrifenedig (a gwaith eraill), a'i werthuso yn feirniadol.
2. deall ac asesu materion moesegol eu prosiect ymchwil eu hunan, a'u gwerthuso yn feirniadol.
3. deall hawlfraint, gwarchod data, ac anghenion storio data mewn perthynas a'u hymchwil.
Disgrifiad cryno
Mae'n angenrheidiol fod gan fyfyrwyr PhD/MPhil ddealltwriaeth fanwl o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint a.y.b. ar ddechrau eu cwrs. Bydd y modiwl hwn yn darparu arolwg/cyflwyniad pwrpasol. Bydd y modiwl mewn ffurf gweithdy a fydd yn ffocysu ar Foeseg Ymchwil a Materion Ysgrifennu. Bydd hyn yn cynnwys, moeseg, materion llenladrata, cyfrinachedd, hawlfraint, gwarchod data, rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu, ac anghenion storio data. Bydd proses foesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnwys.
Nod
Darparu dealltwriaeth o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint , a.y.b. i fyfyrwyr PhD/MPhil. Amlygu system moesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth i'r myfyrwyr.
Cynnwys
Cyflwynir y modiwl fel gweithdy un diwrnod yn trafod yr agweddau perthnasol. Mae'r gweithdy yn cynnwys ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau. Dilynir hyn gan y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil ar-lein ar gyfer cymeradwyaeth moesegol, gan fod angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y person priodol yn eu hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil). Yn ogystal, bydd angen cwblhau cynllun rheoli data (gan ddefnyddio adnoddau ar-lein).
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Rhwydweithio yn ystod y gweithdy |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymhob agwedd. |
Datrys Problemau | |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn ystod y gweithdy |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Cymeradwyo moesegol a chynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect eu hunan. |
Sgiliau ymchwil | Yn ystod y gweithdy ac ar ol y gweithdy. |
Technoleg Gwybodaeth | Proses cymeradwyo moesegol ar-lein |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7