Module Information

Cod y Modiwl
HP34620
Teitl y Modiwl
Milwyr, Myfyrwyr a Masnachwyr: Teithio a Symudedd yn Ewrop Ganoloesol (Rhan 2)
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Cyd-Ofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwerthfawrogi y rhesymau gwahanol am deithio a fodolai yn yr oesoedd canol a pha mor allweddol oedd teithio i grwpiau gwahanol.
2. Trafod profiadau teithwyr o fewn eu cyd-destunau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a chrefyddol.
3. Deall a gwerthuso gwahanol drafodaethau a dadansoddiadau a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.
4. Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol.
5. Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.

Nod

1. Cyflwyno cysyniadau allweddol am deithio a symudedd yn yr Oesoedd Canol.
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am y ffactorau a effeithiai ar symudedd ac effaith teithio ar gymdeithas.

Disgrifiad cryno

Gwelwyd eisoes yn rhan gyntaf y modiwl bod teithio yn rhan bwysig o fywyd Canoloesol. Yn yr ail ran fe edrychir ar wahanol fathau o deithwyr er mwyn ymchwilio’r amrywiol brofiadau teithio ac effaith teithio ar gymdeithas: teithwyr fel pererinion, milwyr, myfyrwyr a masnachwyr. Trwy edrych ar amrywiaeth o ffynonellau ceir syniad o bwysigrwydd teithio o fathau gwahanol a chael golwg manwl ar brofiadau teithwyr unigol. Gwelir yma y cyfoeth profiad a’r amrywiaeth a fodolai ymysg teithwyr Canoloesol.

Cynnwys

Rhowch amlinelliad o’r cynnwys, fesul wythnos, gan nodi’r darlithoedd, y seminarau a/neu unrhyw ddulliau cyflwyno eraill.

Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un. Dyma syniad o’r seminarau:
1. Cyflwyniad: teithwyr yr Oesoedd Canol
2. Pererinion
3. Milwyr a hurfilwyr
4. Myfyrwyr
5. Beirdd a diddanwyr
6. Masnachwyr
7. Teithio i lys y Pab
8. Penseiri a chrefftwyr
9. Llywodraethu’r deyrnas
10. Casgliadau: cymdeithas llawn teithio?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Ddim yn briodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6