Module Information

Cod y Modiwl
GWM6620
Teitl y Modiwl
Deall Cymru yng nghyfnod Trawsnewidiad Byd-eang
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 2,000 gair  40%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 4,000 gair  60%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 2,000 gair  40%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 4,000 gair  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos dealltwriaeth soffistigedig o’r trawsnewidiadau byd-eang allweddol a’u heffeithiau ar newid cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru.
2. Trafod y prif ddadleuon deallusol cyfoes yn ymwneud gyda newid cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru.
3. Gwerthuso yn feirniadol ddadleuon deallusol cyfoes allweddol am sut mae trawsnewidiadau byd-eang sylweddol wedi datblygu yng Nghymru
4. Myfyrio ar gryfderau gwahanol berspectifau disgyblaethol i Ddeall Cymru
5. Perthnasu goblygiadau trafodaethau am Gymru i gyd-destunau empiraidd neu ddamcaniaethol ehangach.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl aml-ddisgyblaethol hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sut mae trawsnewidiadau mawr byd-eang cyfoes yn datblygu ar y lefel is-wladwriaethol yn y cyd-destun Cymreig yn benodol. Mae’n ystyried effaith newidiadau mewn tri maes: economaidd a chymdeithasol, ail-strwythurol gwladwriaethol, mudo a hunaniaeth. Ystyrir y mesydd hyn o safbwyntiau disgyblaethol gwahanol sy’n darparu fframwaith gwerthfawr i ddeall y trawsnewidiadau byd-eang hyn, eu goblygiadau a’r prif ddadleuon deallusol sy’n eu hamgylchynnu yn y cyd-destun Cymreig. Mae hefyd yn darparu cyd-destun i fyfyrio ar y safbwyntiau disgyblaethol gwahanol hyn, gan gynnwys y cysyniadau allweddol a’r fframweithiau damcaniaethol a ddefnyddir ganddynt.

Cynnwys

Cynnwys
Mae’r pynciau sydd i’w trafod yn y modiwl yn cynnwys

Rhan 1 – Deall newidiadau byd-eang cyfoes allweddol
‘When Was Wales?’: Cyflwyno perspectifau disgyblaethol allweddol a chyd-destun ymchwil aml-ddisgyblaethol

Rhan 2
Newid Economaidd a Chymdeithasol
Cymru Ddiwydiannol ac Ôl-Ddiwydiannol
Cymru ac Iechyd: yr etifeddiaeth
Cymru ddinesig a gwledig
Cymru a’r newid yn natur cymuned, Cymdeithas sifil a chyfalaf cymdeithasol

Newid Strwythurol a Gwleidyddol
Ail-raddio (rescaling) a’r wladwriaeth wedi’i hail-strwythuro
Gwleidyddiaeth diriogaethol a llywodraethiant aml-haenog

Mudo a Gwleidyddiaeth Hunaniaeth
Mudo rhyng-genedlaethol a byd-eang
Gwleidyddiaeth hunaniaeth a pherthyn, tir ac iaith
Amrywiaeth ethnig a Chymru aml-ddiwylliannol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi'u gairbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno traethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau’r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o'r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau’r gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd Efallai y bydd rhai ymgysylltu â data meintiol a dadansoddiad ystadegol sylfaenol yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â rhai pynciau seminar
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan y myfyrwyr gyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol I’r modiwl - Gwerthuso persbectifau gwahanol - Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7