Module Information

Cod y Modiwl
GF32900
Teitl y Modiwl
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedau
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Cyd-Ofynion
GF36130/LA36130 CYFRAITH TIR
Rhagofynion
GF10110/LA10110 or LA14230/GF14230 or LA14720/GF14720 GF30110/LA30110 or LA34230/GF34230 or LA34720/GF34720 or LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 42 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 6 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  asesiedig 1500 o eiriau yn Semester 2  33%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad  . Caiff myfyrwyr fynd ir arholiad a chopiau heb eu marcio o unrhyw argraffiadau o Blackstones Statutes on Property Law. Rhaid i ddeunydd heb ei farcio or fath aros heb ei farcio drwy gydol yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau gludiog post-it gwag i gadw tudalennau.  ar ddiwedd Semester 2  67%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  asesiedig 1500 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu  33%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad  . Caiff myfyrwyr fynd ir arholiad a chopiau heb eu marcio o unrhyw argraffiadau o Blackstones Statutes on Property Law. Rhaid i ddeunydd heb ei farcio or fath aros heb ei farcio drwy gydol yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau gludiog post-it gwag i gadw tudalennau.  - os caiff yr arholiad ei fethu  67%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  • Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o'r rheolau cyfreithiol sy'r llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedolaethau, a'r sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
  • Datblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth, a throsglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i ddadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol cymhleth.

Disgrifiad cryno

Rhaid i fyfyrwyr astudio ecwiti a Chyfraith Ymddiriedau er mwyn cael eu hesgusodi o arholiadau Rhan I y Gyfraith Gymdeithas a'r Bar. Sefydlir ymddiriedau [ymddiriedolaethau] am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchenogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'r fwriadol ac fel arfer ar ol cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod cael hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'r deillio ohono. Bydd hyn yn digwydd pan fydd apel yn cael ei sefydlu yn sgil trychineb, megis y tan yn stadiwm pel droed Dinas Bradford, pan suddodd fferi Zeebrugge, neu ar ol y gollyngiad olew oddi ar Ynysoedd Shetland. Yn dilyn llofruddiaeth y bachgen bach, Jamie Bulger, yn Lerpwl, sefydlwyd apel i helpu'r teulu ddod dros y drychineb ac er budd y gymuned leol. Bu pobl wrthi'r anfon arian am ddiwrnodau lawer, a bu'r rhaid i gyfreithwyr gael hyd i ffordd o'r drafod a'r ddefnyddio i ddibenion penodol. Ffurfiwyd ymddiriedolaeth i'r diben hwn. Bydd rhai o'r apeliadau hyn yn cael statws elusennol, ond ceir llawer un na fyddant yn cael y statws hwnnw. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddiffiniad elusen a'r holl anghysonderau yn y gyfraith. Er enghraifft, pam y bydd statws elusennol yn aml yn cael ei wrthod i gronfeydd trychinebau; pam y bu i gronfa er hyrwyddo ysgrifennu Joanna Southcote, dynes a gredai ei bod wedi'r beichiogi gan yr ysbryd glan, dderbyn statws elusennol oherwydd ei bod at hyrwyddo crefydd, ond nid cronfa er budd urdd lleianod caeedig Catholig? Pam bod ymddiriedau at ddibenion hynod ecsentrig wedi'r cynnal pryd na all fod yr undyn byw a fyddai'r elwa ohonynt? Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol. Dylai myfyrwyr sy'r cymryd Ecwiti ac Ymddiriedau eisoes fod wedi astudio Cyfraith Tir neu dylent fod yn cymryd y cwrs hwnnw ar yr un pryd. Mae'r adeiladu ar y sgiliau a geir mewn cyfraith tir, ond hefyd yn eu hatgyfnerthu a'r hymestyn.

Nod

Tri amcan sydd i'r modiwl hwn. Yr amcan cyntaf yw rhoi cynsail gadarn i fyfyrwyr yn egwyddorion a rheolau Ecwiti ac Ymddiriedau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn derbyn digon o wybodaeth i asesu'r feirniadol lle Ecwiti ac Ymddiriedau yn nhrefniadau ariannol a chyllidol dinasyddion preifat a'r byd masnach yn gyffredinol. Yr amcan olaf yw cynorthwyo'r myfyrwyr hynny sy'r dymuno cael eu esemptio o arholiadau Rhan I y Gyfraith Gymdeithas/y Bar.

Cynnwys

1(a) Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol

datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygiad ymddiriedau
ymddiriedau fel dulliau o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiadau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach

(b)/ Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol

gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva
Gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti

(c) Cyfraith Ymddiriedau

2. Ymddiriedau er budd personau

(a) creu ymddiriedolaeth

Gallu
gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurf
bythol-barhau

(b) sicrwydd buddiolwyr

Ymddiriedau a Phwerau
natur y buddiant llesiannol
cyfrif elw

(c) sicrwydd eiddo

3. Diewyllysedd

4. Ymddiriedau Elusennol

5. Cymdeithasiadau Anghorfforedig

6. Penodi, ymddeoliad a symud
pwerau a dyletswyddau ymddiriedolwyr
gwrthdaro buddiannau
taliadau
buddsoddi eiddo ymddiried

7. Amrywiad Ymddiriedau
terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
amrywiad ymddiriedau
Deddf Amrywiad Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr

8. Ymddiriedau Masnachol


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6