Module Information

Cod y Modiwl
GF30120
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
GF131 or Gf 33110
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 6 x Darlithoedd 1 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd Estynedig   8000-10000 o eiriau. Os bydd myfyriwr yn methu’r asesiad ac yn dymuno ailgyflwyno, rhaid cyflwyno traethawd ar bwnc sydd yr un yn ei hanfod ag y cyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth gan y cyfarwyddwr gwreiddiol, neu oni bydd hynny’n bosibl, gan gydgysylltydd y modiwl. Ni ddarperir rhagor o oruchwyliaeth. Nid oes angen cyflwyno cynllun ymchwil pellach nac adroddiad. Gall myfyrwyr fynychu darlithoedd ar y traethawd os dymunir, a chodi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda chydgysylltydd y modiwl.   100%
Asesiad Semester Traethawd Estynedig   Traethawd estynedig 6000-8000 o eiriau i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. Gofynnir i adroddiad ymchwil gael ei gyflwyno yn wythnos 8 y semester perthnasol. Gall methu cyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol. Cyflwyno Poster yn ystod y gweithdy yn semester 2. Gall methu mynychu’r gweithdy olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.   100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Ennill y sgiliau angenrheidiol er mwyn ymchwilio i faes cyfreithiol o ddewis neu faes sy’n gysylltiedig â’r gyfraith ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil mewn modd clir, trefnus a dealladwy er mwyn hyrwyddo’r wybodaeth a’r syniadau a gyflwynir yn y gwaith ymchwil.
Gellir crynhoi canlyniadau hyfforddiant y modiwl hwn fel a ganlyn:
(a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo;
(b) adolygu, cloriannu a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gasglwyd a’r pynciau a nodwyd.
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd;
(d) tynnu oddi ar ystod o ddeunyddiau cynradd ac eiliaidd ar y dewis pwnc i nodi meysydd o’r gyfraith/polisi sydd angen eu hegluro neu eu datblygu ymhellach a phynciau sy’n arwain at drafodaeth
(e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8,000 – 10,000 o eiriau.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn wahanol i gyrsiau eraill yn y Gyfraith gan ei fod yn cynnwys ymarfer ymchwilio cyfreithiol parhaus ac ysgrifennu am bwnc arbennig yn hytrach nag wedi ei seilio ar gwrs astudio sydd wedi’i bennu. Y myfyriwr, gyda chymeradwyaeth yr Adran, fydd yn dewis pwnc i ymchwilio iddo’n fanwl ac yn symud ymlaen i’r camau ymchwilio ac ysgrifennu dan gyfarwyddyd aelod staff sy’n gyfarwydd â’r maes y mae pwnc y traethawd yn perthyn iddo. Bydd yr ymarfer cyffredinol o ymchwilio ac ysgrifennu’r traethawd yn adeiladu ar wybodaeth o, a hyfforddiant wrth ddefnyddio, adnoddau’r llyfrgell a ddarperir yn y modiwl Sgiliau Cyfreithiol. Mae gwaith ymchwil llwyddiannus yn rhagdybio’r gallu i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau llyfrgell ac i olrhain ffynonellau trwy gronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Bydd y goruchwyliwr a bennir yn darparu cyfarwyddyd trwy gyfres o gyfarfodydd lle bydd y myfyriwr yn adrodd ar ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arno/arnynt. Rôl y goruchwyliwr yw cynghori ynghylch methodoleg ymchwil a chyflwyno’r ymchwil yn y traethawd ei hun.
Mae’r asesiad o’r adroddiad ymchwil wedi ei gynllunio i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ymchwilio a’u galluogi i wella eu perfformiad cyffredinol. Asesir y modiwl wrth i’r traethawd gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel y marciwr cyntaf, gan aelod arall o staff fel ail farciwr, a chan arholwr allanol lle bo’n briodol. Asesir y traethawd gan ddefnyddio meini prawf sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd a digonolrwydd yr ymchwil a chyflwyniad ysgrifenedig y deunydd a’r ddadl. Mae’r asesiad yn ymwneud yn benodol felly â’r gallu i weithio’n gymharol annibynnol, i leoli a threfnu deunydd ymchwil perthnasol, ac i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfryngau ysgrifenedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig â’r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr, yn ogystal â’r cyflwyniad poster sy’n ofynnol ar gyfer y gweithdy yn ystod semester 2. Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio a chyflwyno.
Datrys Problemau Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt yn ystod y darlithoedd a’r gweithdy yn semester 2.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o ddau semester; (d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi trefn ar ddeunydd er mwyn cyflwyno’r ddadl a’r data yn effeithiol; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 6,000 – 8,000 o eiriau.
Technoleg Gwybodaeth Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6