Module Information

Cod y Modiwl
FG15720
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (20 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
PH15720, PH15510, FG15510
Rhagofynion
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 20 x Sesiynau Ymarferol 4 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dyddiadur Labordy Ysgrifenedig.  Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd y nodiadau a wneir yn ystod arbrawf tair awr. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol.Y gofyniad lleiaf yw 200 gair yr arbrawf.  50%
Asesiad Semester 2 x Adroddiad Labordy Ysgrifenedig,  2 x 1000 gair  40%
Asesiad Semester Taflen-waith Ysgrifenedig,  20 awr  10%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru:
1. Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
2. Ysgrifennu adroddiad gwyddonol clir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
3. Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
4. Gweithio gydag eraill mewn modd ystyriol, gan rannu'r dyletswyddau ar gyfer gweithio'n effeithlon.
5. Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.



Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o weithio yn y gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau ac i brofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu'r technegau sylfaenol o gynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi sylw i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.

Yn Aberystwyth mae'r modiwlau ffiseg arbrofol wedi eu llunio fel bo myfyrwyr yn datblygu dros y dair neu bedair blynedd o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl i gyflawni arbrofion syml yn y flwyddyn gyntaf, i ymchwilio testun a datblygu eu harbrofion a'u hymchwilio eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n gallu cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Disgwylir taflen waith sy'n manylu ar ansicrwydd mewn mesuriadau a chywirdeb modelau. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am ddau o'r arbrofion mewn adroddiadau ffurfiol, gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testunau. Yn ychwanegol at hyn, yn yr ail semester bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o recordio a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol.

Cynnwys

• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Mae'r gyfres o'r arbrofion yn y semester cyntaf yn seiliedig ar fodiwlau craidd ffiseg sy'n cael eu cymryd ar yr adeg hon. Yn yr ail semester bydd disgwyl i fyfyrwyr berfformio detholiad o arbrofion mewn cylchdro. Mae'r arbrofion hyn yn cwmpasu meysydd allweddol o ffiseg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar yr arbrofion.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gyffredinol yn cynnal yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrywr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrfennu nodiadau.
Rhifedd Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4