Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad ar-lein QMP Traethawd 1500 o eiriau gan ymchwilio i thema un or darlithiau yn fwy manwl. Rhoddir dewis o gwestiynau i fyfyrwyr iddynt eu trafod yn y traethawd. Er mair myfyrwyr fydd yn gosod cyflymder y gwaith, gosodir dyddiadau cau terfynol i bob elfen. Bydd polisi safonol y Sefydliad Daearyddiaeth a wyddorau Daear mewn grym. Rhaid cwblau ddwy elfen yr asesiad er mwyn cael marc pasio yn seiliedig ar y perfformiad cyfansawdd. Arholiad arlein QMP, Computer room needed | 100% |
Asesiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad ar-lein QMP | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Amlinellu cyd-destunau hanesyddol, ffisegol a dynol (cymdeithasol, gwleidyddol) y ddadl newid hinsawdd gyfredol, a disgrifio'r gwahaniaethau rhanbarthol a byd-eang yn sgil effeithiau'r newidiadau hinsoddol rhagweledig;
2. Gwerthuso'r gwahanol gynrychioliadau’r ddadl newid hinsawdd (e.e. yn y cyfryngau gwyddonol a phoblogaidd) yn feirniadol;
3. Asesu manteision ac anfanteision y gwahanol gynlluniau arfaethedig er gyfer addasu at newidiadau hinsoddol rhagweledig y dyfodol.
Disgrifiad cryno
Cynnwys
Gorolwg o bynciau'r darlithoedd: 1) Newid hinsawdd: trawiadau (6 awr) Cefndir hanesyddol ac ymddangosiad ‘dadl newid hinsawdd', a safle daearyddiaeth fel disgyblaeth ynddi; cefndir ffisegol dadl newid hinsawdd; gwyddor cynhesu byd-eang (e.e. dealltwriaethau modeli a chynrychioli ansicrwydd); effeithiau cynhesu byd-eang ar wahanol sfferau systemau daearol (e.e. yr atmosffer, yr hydrosffer, cryosffer, geosffer, biosffer) a gwahanol ranbarthau bydol, yn enwedig parthed geo-beryglon a bioamrywiaeth. 2) Newid hinsawdd: canfyddiadau (6 awr) Cefndir cymdeithasol a gwleidyddol dadl newid hinsawdd, ac ymddangosiad y ddadl ar yr agenda gwleidyddol; canfyddiadau gwyddonol o'r cynrychioliadau newid hinsawdd, gyda phwyslais penodol ar adroddiadau asesu'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC); canfyddiadau a chynrychiolaethau llywodraethau, diwydiant, a'r cyhoedd o newid hinsawdd, a rôl y cyfryngau. 3) Newid hinsawdd – addasiadau (6 awr) Cyllidebu carbon a chynlluniau gwrthbwyso carbon (carbon offsetting): manteision ac anfanteision; Ffyrdd eraill o leddfu ac addasu tuag at economi carbon isel a chynaliadwy (e.e. safbwynt 'triongl sefydlogi'); addasiadau unigol: beth fedrwch wneud? Goblygiadau ffordd o fyw carbon isel.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae asesu gwahanol gyfryngau cyfathrebu wrth galon dadl newid hinsawdd, gyda gwahanol garfannau'n cynhyrchu gwahanol cynrychioliadau ysgrifenedig, gweladwy, ac ar lafar. Canolbwyntia'r modiwl ar ddarparu sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu gwerthuso'r honiadau a rhagolygon am newid hinsawdd sy'n cystadlu â'i gilydd, yn enwedig drwy bwysleisio arwyddocâd gwahanol ffyrdd o gyfathrebu mewn gwahanol gyd-destunau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Newid hinsawdd yw un o'r pynciau llosg byd-eang mwyaf pwysig; daeth yn eitem sefydlog ar yr agenda gwyddonol, cymdeithasol, a gwleidyddol yn gyflym. Fel ymhelaethir ar ddechrau a thrwy gydol y modiwl, mae angen graddedigion sydd yn hyddysg yn natur amlochrog dadl newid hinsawdd, boed yn y gwyddorau, llywodraeth, diwydiant, neu yng nghymdeithas. Yn benodol, mae yna alw am rai â medrau adnabod, asesu, a gwerthuso honiadau a chynrychioliadau newid hinsawdd sy'n cystadlu a'i gilydd. Wrth gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr cefndir cadarn ar gyfer Na dilyn modiwlau mwy arbenigol yn naearyddiaeth ddynol a/neu ffisegol sy'n ymhelaethu ar themâu newid hinsawdd. Byddant yn medru cystadlu am ystod o yrfaoedd sy'n ymwneud â'r amgylchedd ar sail eu sylfaen gwybodaeth. |
Datrys Problemau | Newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd, ond, ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw atebion a dderbyniwyd yn unfrydol neu'n eang ar sut i leddfu a/neu addasu i newidiadau hinsoddol y dyfodol. Mae gan bob strategaeth ar gyfer lleddfu/addasu fanteision ac anfanteision, yn enwedig wrth ystyried gwahanol gyd-destunau daearyddol. Yn sgil hyn mae medrau datrys problemau yn rhan allweddol o'r ddadl newid hinsawdd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Cyflwynir asesu ffurfiadol cyflym (yn debyg i'r rhai yn yr arholiad QMP terfynol) yn y darlithoedd/ar y Porth er mwyn creu meincnodau a fydd yn sail i fyfyrwyr nodi'u cynnydd. |
Rhifedd | Mae'r gallu i ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata rhifiadol a graffigol yn elfennau canolog i'r ddadl newid hinsawdd. |
Sgiliau pwnc penodol | Deall yr amrywiaeth lleol, rhanbarthol a byd-eang agweddau dynol a ffisegol system y Ddaear, yn arbennig yng nghyd-destun y ddadl newid hinsawdd. |
Sgiliau ymchwil | Er na fydd myfyrwyr yn cynllunio na chynnal ymchwil eu hunain yn y modiwl, mae gwerthuso gwahanol ddulliau, dyluniadau, a threfniadau ymchwil yn rhan allweddol o’r ddadl newid hinsawdd. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae adnabod a gwerthuso gwahanol ffynonellau gwybodaeth ar y we (dibynadwyedd, geirwiredd, ac ati) yn elfen hollbwysig o’r ddadl newid hinsawdd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4