Module Information

Cod y Modiwl
CY35700
Teitl y Modiwl
Astudiaethau Trosi ac Addasu
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  Bydd gofyn i fyfyrwyr syn methur modiwl gyflenwi unrhyw elfennau asesedig sydd yn eisiau, ac/neu ailgyflwyno unrhyw aseiniadau gwaith cwrs a fethwyd (gan ysgrifennu ar bwnc newydd), a/neu sefyll y papur arholiad atodol.  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  40%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion  30%
Asesiad Ailsefyll Prosiect  30%
Asesiad Semester Tasgau  Chwe thasg gyfieithu, 3 bob semester (y pedair tasg orau i’w hasesu)  30%
Asesiad Semester Prosiect addasu  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos sgiliau cyfieithu priodol

Gwerthfawrogi cydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol ar gyfieithu

Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth addasu testunau o'u dewis eu hunain

Nod

Datblygu sgiliau trosglwyddadwy trwy gyfuno agweddau theoretig ac ymarferol ar gyfieithu ac addasu testunau. Nod y modiwl fydd meithrin y medrau angenrhediol mewn cyfieithu ac addasu ar lefel broffesiynol.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i wahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu (llenyddol, technegol, hanesyddol ymarferol).

Cynnwys

Cyflwynir darlithoedd (D) a gweithdai (S) ar y canlynol:
1. Agor y maes: cyflwyniad i'r modiwl D
2. Pwysigrwydd cyfieithu i ieithoedd lleiafrifedig D
3. Rhai cysyniadau canolog: ffynhonnell a tharged; cywerthedd; Skopos; polysystemau D
4. Y frawddeg a'i chystrawen wrth gyfieithu D
5. Cyfieithu'r Beibl: egwyddorion ac arferion D
6. Geirfa a chyfieithu D
7. Cyfieithu yn ystod yr Oleuedigaeth D
8. Idiomau a phriod-ddulliau D
9. Astudiaeth achos: cyfieithiad o destun clasurol (Mabinogion Charlotte Guest) S
10. Y ferf, ei moddau a'i hamserau wrth gyfieithu D
11. Cyfieithu a'r gyfraith D
12. Golwg fanwl ar y sylwadau a wneir ar waith ymgeiswyr arholiadau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru S
13. Cyfieithu ac ideoleg ? achos Menna Elfyn D
14. Cyfatebiaeth cyweiriau iaith S
15. Addasu: cynulleidfa/pwrpas/cyfrwng D
16. Amwysedd ac atalnodi S
17. Darllen ffilm/lluniau/teledu/drama S
18. Dadansoddi eich gwendidau fel cyfieithydd a goresgyn anawsterau penodol S
19. Cyfieithu llenyddol a thechnegol D
20. Cyfieithu ac addasu caneuon S
21. Dyfodol cyfieithu D
22. Cyfieithu ac addasu barddoniaeth S

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu'n rhugl gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir mewn dosbarthiadau ac mewn profion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn meithrin ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu cyfieithwyr ac addaswyr wrth eu gwaith
Datrys Problemau Hanfod y modiwl fydd trin a thrafod nodweddion dwy iaith a'r cwestiynau syniadol a thechnegol a gyfyd wrth symud rhyngddynt.
Gwaith Tim Anogir myfyrwyr i gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau'r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir myfyrwyr i werthuso adborth gan gyd-fyfyrwyr a darlithwyr ac i drafod gwaith ysgrifenedig ei gilydd wrth iddo gael ei baratoi.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio testun i'w addasu gan ddefnyddio'r llyfrgell a chyfryngau eraill.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr (a'u hyfforddi lle bo hynny'n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith a'u paratoi ar gyfer byd gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6