Module Information

Cod y Modiwl
CC24400
Teitl y Modiwl
Python Gwyddonol
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 40 x Darlithoedd 1 Awr
Ymarferol 10 x Sesiynau Ymarferol 1 Awr
Ymarferol 5 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr
Tiwtorial 10 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r iaith raglennu Python ac yn fwy eang, y Stack Python Gwyddonol. Yna bydd y modiwl yn cwmpasu strwythur sylfaenol arbrawf gwyddonol, rhagdybiaethau a phrofion gydag enghreifftiau o arferion da a drwg. Byddwn yn trafod yr anhawster wrth gyflawni hap, ffynonellau tueddiad wrth samplo a chyflwyno prosesau profi ystadegol priodol ar gyfer gwahanol fathau o astudiaethau.

Cynnwys

Semester 1

Wythnos 1: Cyflwyniad,mathau, newidynnau, gosodiadau “if”, dolenni “for” a “while”. Y dehonglydd ac enrhifiad mynegiadau syml. Golygu, safio a llwytho côd.

Wythnos 2: Y strwuthurau data: Rhestrau a geiriaduron.

Wythnos 3: Araeau numpy.

Wythnos 4: Ffwythiannau. Diffiniad ffwythiant, galw ffwythiant.

Wythnos 5: Trefnu côd Python. Cynhyrchu dogfennaeth (e.e. pydoc), darganfod a delio ag eithriadau, trefnu côd i fodiwlau, cyflawni main (a __main__).

Wythnos 6: Dosbarthiadau a gwrthrychau. Diffinio dosbarthiadau, enghreifftio gwrthrych. Etifeddiad.

Wythnos 7: Gweithio â gwrthrychau. PLOTIO: Trin data a plotio canlyniadau

Wythnos 8: Trin â ffeiliau. Fformat CSV.

Wythnos 9: Plotio. Trin data a plotio canlyniadau.

Wythnos 10: Dosbarthiadau adolygiad ac ailymweld.

Semester 2

Wythnos 1: Y Dull gwyddonol. Strwythur ymchwiliad gwyddonol. rhagdybiaethau. Rasel Occam. Rheolyddion. Cydberthyniad v. achosiaeth. Anwiriad. Enghraifft fel bwriad i drin.

Wythnos 2: Hap. Generaduron haprifau. Dosraniadau hap. Sgwariau Lladin. Treialon rheoledig a dwbl dall.

Wythnos 3: Ystadegau diannod.: mesurau canolduedd a gwasgariad. Defnyddio scipy.

Wythnos 4: Profi rhagdybiaeth. Prawf t Hyder. Gwerthoedd p. Cywiro profion niferus. Cydberthynas.
Wythnos 5: Cymhwysiad i ddata real.

Wythnos 6: Samplu. Bootstrap. Monte Carlo. Tueddiadau.

Wythnosau 7-9; Pynciau llosg mewn gwyddoniaeth.

Wythnos 10: Dosbarthiadau adolygu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5