Module Information

Cod y Modiwl
CC15020
Teitl y Modiwl
Offer Datblygu i'r We
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 10 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ychwenegol  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  60%
Asesiad Ailsefyll Ail cyflwyno tasgau ymarferol a methwyd, neu arall o werth cyfartal.  40%
Asesiad Semester 2 tasg ymarferol  pob un yn gynnwys cynllunio ac implemteiddio set o dudalennau we.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adeiladu safle wê syml gan ddefnyddio System Rheoli Cynnwys a thrwy ysgrifennu HTML, a rheoli arddull drwy defnyddion CSS.

Disgrifio pensaerniaeth y wê a'r gwahaniaeth rhwng prosesu ochr cleient ac ochr gweinydd.

Esbonio'r gwahaniaeth rhwng strwythr, arddull a chynnwys ddeunydd wê, a'r lles o wahaniaethu rhyngddyn nhw.

Ysgrifennu côd ochr cleient i ryngweithio, darllen a phrosesu cynnwys tudalen wê.

Cynllunio, gosod a gofyn basau data aml-tabl ac esbonio rhesymau am ddefnyddio bas data aml-tabl.

Cronfeydd data aml-bwrdd - Modelu perthnasau endid: endidau, priodoleddau, perthnasoedd, perthnasoedd llawer i lawer. Primary and foreign keys. Deillio set o dablau o fodel.

Cynnwys, cyflwyniad a strwythur. (X) HTML, CSS.

Dilysu, safonau gwe, HTML fel XML / SGML. Dogfennau fel coed. Rhyfeloedd porydd.

Sgriptio ochr cleient - prosesu ECMAScript (JavaScript) a ffurflenni HTML. The Document Object Model (Model Gwrthrych Dogfen).

Cymhariaeth ochr cleient a gweinydd. Gwaith ochr y gweinydd. Y protocol HTTP. Cyflwyniad i egwyddorion rhaglenni ar gyfer ochr y gweinydd.

Offer graffeg: Golygyddion Graffeg a meddalwedd Animeiddio.

Dyfodol y we: syndicat, chwilio. Gwe 2.0. Gwe 3.0. Y we semanteg, cymdeithasol, a symudol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno technolegau craidd a phensaernïaeth y we. Ynddo, byddwn yn ymdrin â chyfathrebu; strwythur a chyflwyniad cynnwys; y model gweinydd cleient; ffeithiau sylfaenol cronfeydd data ar gyfer rhaglenni’r we. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r we a chronfeydd data.

Nod

Mae dealltwriaeth o dechnoleg i'r we yn rhan allweddol yn y maes cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth cyfoes.

Cynnwys

1. Golygyddion Tudalen We WYSIWYG: Offer datblygu'r we. Sut mae gwefan wedi'i chynnal.

2. Cyflwyniad cronfa ddata: Creu cronfa ddata, creu tablau, mewnosod data, dewis data.

3. Cronfa ddata syml sy'n cysylltu â WordPress ac OSCommerce (neu'n debyg).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrwng cyfathrebu ydy'r wê. Ymdrinnir â llawer o nodweddion ar gyfer cyfathrebu effeithiol a phwysleisir defnydd da ohonynt
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd angen sgiliau rheoli amser er mwyn cyflawni'r gwaith cwrs.
Datrys Problemau Gellir llawer o agweddau yn y ffordd mae'r wê yn gweithio cael ei darparu mewn mwy nag yn ffordd, neu gellir bod yn gymhleth i ddatblygu. Bydd angen i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth i atebion effeithiol
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen dysgu manylder o dechnolegau o ffynonellau technegol proffesiynol; rhoddir arweiniad strategol mewn darlithoedd. Mae defnydd effeithiol o'r adnoddau hyn yn gofyn am strategaethau da o bori a darllen.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth fanwl o dechnolegau gwê ochr y cleient a byddant yn gwerthfawrogi offer cyfoes
Sgiliau ymchwil Bydd rhaid i'r myfyrwyr chwilio a defnyddio manylion technegol perthnasol drwy cyflawni gwaith ymarferol a aseswyd.
Technoleg Gwybodaeth Mae'r holl modiwl yn ymwneud â Thechnoleg Gwybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4