Module Information

Cod y Modiwl
BG30820
Teitl y Modiwl
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
BR20420 neu BG20420 , NEU RD23420, NEU RG23420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 9 x Darlithoedd 2 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad seminar  40%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad ysgrifenedig  60%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad ysgrifenedig.  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Adnabod cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid.

2. Adolygu a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol a gweithredu'r canlyniadau er mwyn datblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid.

3. Esbonio sut mae gwyddoniaeth yn medru cael ei ddefnyddio i wella systemau atgenhedlu, llaetha , tyfiant a datblygiad anifeiliaid fferm.

4. Trafod y materion moesegol a chymdeithasol sydd yn gysylltiedig gyda'r defnydd o wyddor anifeiliaid.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma'n archwilio'r ffyrdd y mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid mwy effeithlon. Bydd seminarau a darlithoedd yn ymdrin ag amrediad o destunau amserol gan gynnwys technoleg atgenhedlu, dulliau dylanwadu llaetha a ffrwythlondeb, gwyddor cig, maeth anifeiliaid a gwelliannau geneteg.

Cynnwys

Technolegau atgenhedlu gan gynnwys:
Technoleg ymhadu artiffisial

Systemau cynhyrchu gwartheg godro gan gynnwys:
Newid a gwella ansawdd llaeth
Rheoli mastitis yn y fuwch odro
Clefydau metabolig
Rheolaeth gwartheg yn y cyfnod trawsnewid
Systemau cynhyrchu cig gan gynnwys:
Strategaethau bwydo gwartheg biff, defaid a moch
Strategaethau rheoli parasitiaid yn y coluddyn
Gwyddor cig gan gynnwys y ffactorau sydd yn effeithio ansawdd bwyta cig

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Yn cael ei ddatblygu mewn seminarau a gwaith ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd darlithoedd a seminarau yn datblygu ymwybyddiaeth o'r cydberthnasau cymhleth rhwng cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i adnabod a dadansoddi problemau, a bydd gwerthusiad o'r llenyddiaeth gwyddonol a'i defnydd yn darparu astudiaethau achos i arddangos sut mae gwyddoniaeth gymhwysol yn medru cael ei ddefnyddio i ddatrys problemau. Asesir mewn seminarau ag arholiad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn datblygu sgiliau darllen a dehongli cyhoeddiadau gwyddonol, paratoi gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar a gweithio i derfyn amser.
Rhifedd Dehongli cyhoeddiadau gwyddonol. Yn cael ei asesu mewn seminarau ac mewn arholiad.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Datblygir drwy astudio llenyddiaeth gwyddonol ag asesir trwy'r aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Asesir y defnydd o PowerPoint yn y cyflwyniad seminar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6