Module Information

Cod y Modiwl
AD20120
Teitl y Modiwl
Seicoleg Dysgu a Meddwl
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 2 x Gweithdai 2 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
Seminar 9 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  1 x aseiniad ysgrifenedig 2500 gair  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  1 x arholiad 2 awr. Bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn. Darperir asesiad amgen i fyrfyrwyr sydd a thystiolaeth i gefnogi yr angen am y fath ddarpariaeth.  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Atodol  1 x aseiniad ysgrifenedig 2500 gair(gosodir cwestiynau newydd)  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  1 x arholiad 2 awr. Bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn.(gosodir cwestiynau newydd) Darperir asesiad amgen i fyrfyrwyr sydd a thystiolaeth i gefnogi yr angen am y fath ddarpariaeth.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o natur gymhleth prosesau meddwl ac egwyddorion prif ddamcaniaethau dysgu.

Gwerthuso'r feirniadol ddamcaniaethau, ffyrdd a dulliau o asesu dysgu a meddwl.

Trafod yn feirniadol ddadleuon wrth drafod damcaniaethau, ffyrdd a dulliau o ddysgu a meddwl.

Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl, a'r modd y'r cynlluniwyd yn benodol, yw ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr am brif ddamcaniaethau meddwl a dysgu. Mae'r damcaniaethau hyn yn cynnwys: damcaniaethau Piaget, Vygotsky a Skinner. Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu harddulliau dysgu ac i gysylltu'r rhain a chysyniadau allweddol yn y maes. At hyn, rhoddir cyfleoedd i'r myfyrwyr wneud gwaith arbrofol mewn grwpiau bach er mwyn ymestyn eu dealltwriaeth o'r ddau gysyniad sydd wrth wraidd y prif ddamcaniaethau a'r modd y'r defnyddir.

Nod

Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:
Darlith a seminar 1: Datblygiad cynenedigol
Darlith a seminar 2:Datblygiad yr ymennydd
Darlith a seminar 3: Prosesu gwybodaeth
Darlith a seminar 4: Theoriau gwybyddol
Darlith a seminar 5: Datblygiad iaith
Darlith a seminar 6: Blynyddoedd ysgol
Darlith a seminar 7: Theoriau dysgu cymdeithasol
Darlith a seminar 8: Problemau gydag ymddygiad plant
Darlith a seminar 9: Theor'r meddwl
Darlith a seminar 10: Datblygiad moesol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd un o'r tasgau seminar yn gofyn am lunio cyflwyniad PowerPoint.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5